Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iannol a ddisgwylid gan yr awdur. Cymdeithas ifanc fyw yn gweld ffordd i fynegi ei hunaniaeth drwy'r canu corawl, a wêl yno, ond dengys hefyd mor holl-bwysig oedd cael arweinydd i sianelu a disgyblu doniau ac egnïon yr ardal. Gwr o Aberafan oedd Ivander Griffiths a symudodd i Bontardawe yn swyddog yn y gwaith haearn ym 1850, ac ef fu'r cyfrwng i dynnu Cwm Tawe i mewn i oes y corau, a greodd y fytholeg o Gymru yn Wlad y Gân'. Noddi dirwest a gwerthoedd dyrchafol oedd y cymhelliad, ond eisteddfod oedd y sbardun i greu un côr mawr o wahanol gorau'r capeli, ac er i 'Gymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe' ddod i ben pan symudodd Ivander o'r ardal ar ddiwedd y chwe degau, nid anghofiwyd ef na'i waith, a pharhaodd corau lleol i lwyfannu cyngherddau ac oratorios. Pan ymddangosodd eto arweinydd â'r un doniau a'r un parodrwydd i weithio'n galed, yr oedd amgylch- iadau'r ardal wedi newid. Canu i herio mewn dirwasgiad oedd y bobl bellach, ond yr Eisteddfod oedd y symbyliad eto, sef y Genedlaethol yn Abertawe ym 1926. W. D. Clee, F.R.C.O. oedd yr arweinydd, yn hanfod o deulu cerddgar yn yr ardal ac yn brofiadol mewn arwain operâu. Er mai 'Côr Ystalyfera' ydoedd mewn enw, yr oedd yn cynnwys cantorion o gylch eang o Glydach i Gwmllynfell ac Ystrad- gynlais. Cofiaf yn dda frwdfrydedd yr ardal yn nhynged y Côr hwn, y diddordeb manwl ar yr aelwydydd yn y testunau yn ogystal â'r feirniadaeth, a sylweddolaf yn awr gymaint a gyfrannodd yn ddiar- wybod at fy addysg gerddorol innau. Er nad oedd yr un o'm rhieni yn y Côr yr oedd sawl un o'n capel ni yn aelodau blaenllaw a'r rhyfeddod i rni, yn naw oed, oedd sylweddoli mai Soprano uchel oedd y wraig fawr dew, a bod mam fy mhrif ffrind, menyw mor denau ag ystyllen, 'gystal â phedair Alto', ym marn neb llai na 'W.D.' ei hun! Cefais y fraint o fynd gyda'm tad fwy nag unwaith yn ystod y blynydd- oedd llwyddiannus i gapel Pant-teg i wrando ar y practis terfynol. Y tro cyntaf yno cofiaf i mi deimlo peth o'm hen chwithdod ar iard yr ysgol fach gynt, o ystyried fod chwaer fy mam yn canu yng 'nghôr J.R. sef Rhydaman, ond fe gedwais yr wybodaeth i mi fy hun, fel y gwneuthum wedyn, fod gennyf gydnabod, yn wir, berthnasau o bell, yng nghôr Pontarddulais! Bu cofio hyn yn help i mi ddeall sêl y clybiau rygbi yn nes ymlaen! Wrth gwrs, anghofiwn innau yr is- deimladau hyn pan glywn seiniau'r ddau fand yn ymgasglu i groesawu'r buddugwyr adref. Yr oedd gennym ni gysylltiad mwy uniongyrchol â band Tref Ystalyfera, gan fod yr arweinydd, Evan John Evans, yn gaffer yn ein gwaith tun ni, a llawer o'r aelodau hefyd yn gweithio yno. Yr oeddwn i ymhell o gartref pan glywais am y colli ym 1936, acerbyn 1938 ymddangosai methiant Côr Ystalyfera yn llai pwysig i mi na thynged Tsiecoslofacia, a phan ddychwelais i Abertawe ar ddech- rau'r rhyfel, yr oedd y gwyr ifainc a'u lleisiau ar draws y byd, a thynged yr hen waith tun wedi ei selio am byth. Y mae'r gyfrol yn symud o drafod y diwylliant torfol i roi sylw i dri o lenorion y Cwm. 'Tywi yng Nghwmtawe' yw testun Noel Gibbard, sef y Parchedig J. Tywi Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn y Glais o 1906, a golygydd y 'Darian' o 1913, sgrifennwr dramâu ar gyfer cwmnïau lleol, ac awdur storïau ddigon difyr. Pregethwr digon diflas, serch hynny, heb fawr o'r 'ddawn dweud' ddisgwyliedig yn y cyfnod. Oni chafodd Gwili achos i alaru, wrth orffen yng Ngholeg