Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXLIX (630-633) 1994

Cwm Tawe. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Bangor A phawb yn cael galwad,
ond Tywi a fi!' I mi yr oedd yn
bwysig am ei fod yn wr i Moelona,
ond mae'n debyg iddo wneud
diwrnod da iawn o waith i warchod
y Gymraeg yn ei ardal yn ogystal â
thrwy'r 'Darian'. Gyda llaw, T.
Valentine Evans oedd enw tad y
Prifathro Emrys Evans, nid
'Vincent' (t.241).
O safbwynt beirniad llenyddol y
mae Robert Rhys yn pwyso a mesur
J. J. Williams, yn 'Cân y Fwy-
alchen'. Bu J.J. yn weinidog yn
Nhreforys am chwarter canrif a
mwy, 0 1915 i 1944. Tybiaf iddo
yntau, fel Tywi, helpu i atal y llif
Saesneg, ond canolbwyntir yma ar
ei yrfa lenyddol, a'i weld yn
'addewid nas cyflawnwyd', am iddo
lynu wrth 'yr awen lednais' a
diwinyddiaeth ryddfrydol. Nid gwr
o flaen ei oes ydoedd, mae'n amlwg,
yn hytrach un a adlewyrchai ei oes ei
hun. I hanesydd, wrth gwrs, mae
ffigur felly yn gallu cynnig tystiol-
aeth o bwys.
Yr oedd Gwenallt, testun pennod
olaf y llyfr, gan Peredur Lynch,
wedi ei eni genhedlaeth ar ôl J.J.
Cafodd addysg Prifysgol ac felly yr
oedd yn fwy agored i ddylanwadau
llenyddol o Loegr a Ffrainc, na'r J. J.
canol oed â'i gefndir cwbl Gymreig,
a oedd ymhlith y tri beirniad a
ddyfarnodd awdl Gwenallt, 'Y
Sant', yr orau yn Eisteddfod Treorci,
1928, ond a ataliodd y wobr
oherwydd 'afledneisrwydd'. Ceir
yma ymdriniaeth fanwl a hwyl-
iog — o'r holl helynt a ddilynodd, y
gwrthryfel yn erbyn John Morris-
Jones fel beirniad, a lle'r 'Sant' yn
natblygiad Gwenallt ei hun fel
bardd.
Er pwysiced ac er mor ddiddorol y
ddwy bennod olaf, daliaf i deimlo'r
angen am ddiwedd-glo mwy
cyffredinol i gloi'r gyfrol yn gymen.
Ar yr un pryd gorfoleddaf yn y
gyfrol hon am roi ar glawr a chadw
drysorau y mae perygl i'r cof
amdanynt bylu, onid diflannu'n
llwyr, mewn cyfnod o newid mor
aruthrol. Brysied y golygydd
ymlaen â'r gyfres hon!
MARIAN HENRY JONES
EMYR ROBERTS, Dyddiau Gras.
Gol. John Emyr. tt.280, [9.95.
Dyma gasgliad chwaethus a swmpus
o ddetholion defosiynol, un ar gyfer
pob dydd o'r flwyddyn, a hynny gan
lenor craff a bywiog, enillydd y
Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod
Genedlaethol 1973. Nid oes gennyf
amheuaeth na bydd yn cael ei gyfri
ymhlith clasuron defosiynol y
Gymraeg.
Perthynai'r diweddar Barch.
Emyr Roberts i adain efengylaidd yr
hen Gorff. Mae gennyf gof am ddau
fath o berson efengylaidd o fewn
rhengoedd y Cyfundeb. Yn gyntaf, y
math henffasiwn cynnes: y gweini-
dogion a bregethai yn y dull a
glywsant gan eu rhaglaenwyr, a
gawsai dröedigaeth o dan y fath
weinidogaeth, ac a arhosai'n
ffyddlon i'r genadwri a arddelwyd
gan sylfaenwyr yr enwad a chewri
hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.
'Roedd yr ail fath yn ymwneud â
chynnwys digon cyffelyb. Ond
'roedden nhw'n ymwybodol o
bregethu mewn cyd-destun a hawl-
iai eu bod yn 'gwahaniaethu':
gweithredent ddirnadaeth brofiad
gan arddel y gwahaniaeth hwnnw'n
ddi-ofn. 'Roeddent yn gyfarwydd â
datblygiadau neo-ryddfrydol Bult-
mann, Tillich ac eraill, ac â
Beirniadaeth Feiblaidd ryddfrydol.
Ond gwelent hefyd fod y cwbl
hwnnw yn dibynnu ar ragdybiau
dynganolog. 'Roedd y math hwn o
efengyleiddiwr wedi dadansoddi'r
argyfwng anffodus a wynebai
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.