Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

enwad. Yn ei farn onest priodolai lawer o'r gwendid cyfredol i an- ffyddlondeb. Heb Feibl gwrthrychol a brofwyd yn Air awdurdodol trawsnewidiol-yn-bersonol, ni allai'r Neo-Ryddfrydwyr ddatgan 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd'. O ganlyniad collwyd yr athraw- iaethau clasurol hanesyddol am yr Iawn a'r Atgyfodiad Gorfforol, am Bechod Gwreiddiol ac am reid- rwydd Ailenedigaeth. Gwanychwyd y rhuddin oll, ac nid arhosai y genadwri oruwchnaturiol y mae ei hangen yn ingol ar bechadur marwol. Tawodd yr utgorn. Ni ddôi'r her anesmwythol i'r adfeilio hwn heb ei sawdl Achil. Ond yn wahanol i rai o'i gym- heiriaid efengylaidd yr oedd Emyr Roberts wedi ymryddhau rhag llyffetheiriau Pietistiaeth. Heblaw perthynas bersonol â Duw, câi holl fyd ymarferol dyn sylw ganddo gwleidyddiaeth a'r celfyddydau, anghenion cymdeithasol ac ecolegol. Iddo ef yr oedd Pen- arglwyddiaeth Duw yn hawlio efengyl gyflawn. 'Roedd yn rhaid i iaith a phriod-ddull y genadwri fod yn berthnasol ddealladwy mewn cyd-destun diwylliannol cyfoes. Ond gwnâi hynny heb golli golwg ar yr her a wynebai ysbryd y tlotyn ffaeledig, a hefyd gan gofio mai anghenraid cyntaf pob pregethwr oedd bod yn 'hawdd' gwrando arno. Aeth Emyr Roberts yn weinidog cyn dod yn Gristion wedi'i aileni. Druan o'r gweinidog hoff sy'n aros yn weinidog heb brofi Crist hyd wraidd ei galon. Un o'r rhagdybiau gormesol yn yr eglwysi na allant gyfarwyddo'u pobl tua bwlch yr argyhoeddiad yw'r dogma o an- sicrwydd. Dyma'r amharodrwydd trist i beidio â bod yn barod i gael ateb pendant hyd yn oed pe canfyddid y fath beth. Cyn 'rhydd- ymofyn', adeiladwyd eisoes am- ddiffynfa rhag byth ddod o hyd i hyfrydwch gwirionedd digymrod- edd. Meithrinwyd osgo o wrthod derbyn datguddiad gwrthrychol. Yng nghanol hyn o gyfwng y mae geiriau Emyr Roberts yn iechyd. 'Does dim sio i gysgu fan hyn. Daw ei alwad yn ffres ac yn groyw o hyd drwy'r tudalennau yma: Nid oes y fath beth â gwirionedd henffasiwn Byddaf yn synnu at y nifer o bobl ifainc o'r Gymru Gymraeg a fydd yn dweud wrthyf iddynt gael gafael ar grefydd real trwy ryw fudiad Seisnig neu'i gilydd. Pam, fe ofynnaf, y mae'n rhaid i fachgen o Gymro droi at y Saesneg i glywed efengyl sy'n cynnig ei achub, a'r efengyl honno wedi bod yn fwy o rym ym mywyd ei dadau nag odid ym- hlith unrhyw genedl? Newydd da ydyw i bobl wedi derbyn newydd drwg, y newydd drwg eu bod yn bechaduriaid a bod arnynt angen Gwaredwr. I'r tlodion yn yr ysbryd y bydd clychau Bethlehem yn llawenydd mawr dros ben: i bawb arall dylent fod yn achos y pryder mwyaf Mwyaf rhinweddol y bo dyn, mwyaf tebyg y bydd hi iddo fod yn falch a hunan-gyfiawn Mae llawer ffordd i wared yr efengyl o'i thramgwydd. Trowch hi yn swm o ymarferiadau crefyddol, mynd i'r addoldy a chyfrannu a 'chymryd rhan' ac ati, ac ni ddigiwch chi neb, ac yn sicr ddigon nid achubir neb chwaith. Neu trowch yr efengyl yn fudiad protest a gwaeddwch nerth esgyrn eich pen yn erbyn yr anghyfiawnderau sydd yn y byd ac o blaid diwygiadau cym- deithasol ac ni fydd neb yn eich cyfrif yn ffwl, ac fe gewch lawer o help, mi synnwch gan bwy. Gwnewch ynteu Gristnogaeth yn bwnc i'w drafod, yn fater i seiat