Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

holi, yn fusnes o ddarllen llyfrau a dyfynnu enwau awduron ac ni thynnwch chi neb yn eich pen; yn wir bydd rhywrai yn eich edmygu a'ch clodfori (dyna fydd eich gwobr), ond yn sicr ddigon ni ddygir neb trwy hyn i boeni am ei feiau ac i ymofyn am ras Pobl a wrandawodd ac a gredodd yw arwyr y Beibl Mae gwell gobaith ohonoch yn ffyrnigo yn erbyn athraw- iaethau'r ffydd na'ch bod yn byw ar gawdel o syniadau crefyddol cymysgryw wedi eu hel at ei gilydd yn ôl dymuniad calon dyn Y peth gorau y gallwn ei ddweud amdanom ein hunain yw ein bod wedi derbyn trugaredd Bywyd newydd wedi ei wreiddio yn y gwirionedd yn yr Arglwydd Iesu Grist yw undod yr eglwys yn y Testament Newydd I ddechrau ein gweld ni'n hunain fel y gwêl Duw ni, mae'n rhaid inni ddod i adnabod Duw Marc y Cristion yw nid bod ganddo rywbeth i'w ddweud am yr hyn oedd Iesu Grist gall pawb ddweud rhywbeth am hynny. Y mae gan y Cristion rywbeth i'w ddweud am yr hyn ydyw yr Arglwydd Iesu Grist. Dim ond y sawl sydd wedi cael sydd yn ceisio, dim ond y sawl sydd wedi blasu sydd yn blysio, y sawl sydd wedi profi'r hyn sydd dda yw'r tebycaf i ddeisyfu amdano Y pwynt yw nid ein bod yn cael bywyd am wneuthur cyfiawnder, am garu, am gredu, ond bod y pethau hyn yn profi bod y bywyd gennym. Gweithgareddau'r bywyd ydyn nhw; pobl wedi eu geni o Dduw sy'n gwneud y pethau yma Rhaid inni fynd at y Beibl fel yr â'r gwyddonydd at Lyfr y Gread- igaeth, nid i'w blygu i'n rhag- dybiau, ond i wrando arno a chymryd ein dysgu ganddo Nid cyfarwyddyd yw Crist- nogaeth sut i lunio trefn wleid- yddol neu economaidd neu gydwladol, nac yn wir gyf- undrefn o foeseg i fyw wrthi. Yn gyntaf oll, trefn i faddau pechod ydyw. O'r berthynas newydd â Duw trwy faddeuant y deillia popeth Cristnogol ym mywyd y crediniwr. Yn ôl yr ystadegwyr, y mae'n rhy hwyr bellach i adfer y grym ysgrythurol o fewn yr enwad. Ond fe gred rhywrai fod yna weddill ffyddlon o hyd, ac y byddai hen halen cyfundeb a gyfrannodd mor helaeth i hanes ein gwlad yn gallu eto felysu'n cyflwr. Dyna oedd gobaith Emyr Roberts. Fe dybiai ef yn betrus y gallai fod bendith o hyd o fewn fframwaith a ysigwyd i raddau helaeth, a bod adnewyddu'n bosibl drwy gadw'n driw drachefn i'r Ffydd Ddiffuant. Byddai'n braf synied ei fod yn agos i'w Ie. Y mae yna rywrai yn byw heddiw a gaiff weld a yw'n rhy hwyr neu beidio. Sut bynnag, dyma ryddiaith grefyddol fachog ac afieithus sy'n siarad â'n cyfnod mewn modd diamwys o berthnasol. Detholwyd y darnau anghysurus hyn, gyda diwydrwydd a chraffter mawr, o sawl ffynhonnell gyhoeddedig ac anghyhoeddedig, yn aml yn dra anodd i'w cael, a hynny gan fab yr awdur John Emyr, y beirniad, bardd, nofelydd a storïwr. Ceir cyflwyniad a phortread hyfryd o'r awdur gan yr Athro R. Geraint Gruffydd ynghyd ag arlunwaith gan Rhiain M. Davies. BOBI JONES