Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ogystal ag wrth y beirniad llên. Ac y mae yn llygad ei Ie, wrth gwrs. Soniodd Thomas Charles-Edwards rywle am 'the indivisibility of history and literature', ac y mae yna lefel lle mae'n anodd onid yn amhosibl gwahanu llenyddiaeth a hanes. Ymhlith y penodau mwyaf dad- lennol yn y gyfrol, ac y maent i gyd yn ddadlennol yn yr ystyr eu bod yn tynnu'r llen ac yn datguddio ag- weddau nas datguddiwyd o'r blaen, y mwyaf dadlennol o'r cwbl i mi, a'r un sy'n dangos dull Mr. Millward ar ei orau yw honno ar 'Gwilym Hiraethog: Llenor y Trawsnewid'. Efallai mai'r rheswm am hyn ydyw mai canrif y trawsnewid oedd y bedwaredd ar bymtheg, neu'n hytrach canrif y trawsnewidiadau, oblegid nid un trawsnewid mawr a fu ond nifer ohonynt. Ar ôl dweud fod Cyfrinach yr Aelwyd Gwilym Hiraethog a'i lyfr olaf, Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, 'yn perthyn yn agos i'w gilydd o ran amcan ac ymdriniaeth', â Mr. Millward rhag- ddo: Yr oedd Gwilym Hiraethog yn wr ifanc ar ei brifiant yn ystod ugeiniau'r ganrif ddiwethaf pryd na allai neb ystyriol lai na sylwi ar y newid cyflym a oedd yn digwydd yn eu cymdeithas. Fel Thackeray, teimlai Hiraethog ei fod yn byw mewn byd newydd, byd a oedd yn cael ei drawsnewid yn barhaus. 'An age of change' oedd hi, meddai John Stuart Mill, ac y mae'r ymwybod hwn â newid yn hydreiddio meddwl y ganrif ddiwethaf. Fel yr awgrymwyd, y mae'r ym- wybod â newid yn amlwg iawn yn Helyntion Bywyd Hen Deiliwr. Gwêl Mr. Millward ynddi dair haen. Atgofianna, a defnyddio gair T. H. Parry-Williams, sydd amlycaf yn y rhan gyntaf a'r atgofion hynny'n llawn o wersi buddiol ac yn amlygu'r ymwybod anes- mwyth â newid pellgyrhaeddol yn y gymdeithas Victoraidd. Yr haen arall yw hanes achub enaid hen wr Yr Hafod Uchaf. Yn yr ai1 ran, cawn y stori garu ac ynddi awgrym o'r newid y mynnai radicalwyr yr oes ei weld yn digwydd ym mherthynas y dos- barthiadau cymdeithasol â'i gilydd ni byddai Gwilym Hiraethog wedi cynnwys y fath stori er ei mwyn ei hun. Gwir nad yw'r haenau hyn yn cydasio'n gyfanwaith, ond fel y dangoswyd yn Aelwyd F'Ewythr Robert yr oedd Hiraethog yn rhyddieithwr rhy fedrus i fodloni ar adeilad- waith syml, diddychymyg. Yn gefndir ac yn gyd-destun i'r cwbl y mae'r argyhoeddiad a oedd yn sylfaenol i feddwl Hiraethog: y gwrthgyferbyniad achubol rhwng newid yn y byd darfodedig hwn a sicrwydd y tragwyddol digyfnewid. Unig safon ddiogel y Cymro yn Oes Victoria, medd Hiraethog, yw ei adnabyddiaeth o'i Dduw, 'gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröed- igaeth.' Ni allai neb ddewis rhwng y gwych a'r gwachul yn y gymdeithas Victoraidd gyf- newidiol ond trwy arddel y safon hon. Pa feirniadaethau bynnag y gellid eu hanelu at weithiau Gwilym Hiraethog, y mae'n anodd rhagori arno fel mynegai i feddwl Oes Victoria. Ofnaf fy mod wedi ymollwng i ddyfynnu ar y mwyaf ond cystal i mi ildio i'r demtasiwn unwaith yn rhagor wrth gyfeirio at y bennod ar 'Ceiriog: Bardd y Byd Newydd', pennod a lwyddodd i symud ymaith beth o'r rhagfarn a fu gennyf yn erbyn y bardd hwnnw a rhai o'i gerddi mwyaf poblogaidd. (Parhad ar d.183)