Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W. J. Gruffydd Hon* ydyw'r gyntaf mewn cyfres newydd o fywgraffiadau llenyddol sy'n ceisio ymdrin yn feirniadol â gwaith rhyw awdur neu'i gilydd mewn trefn gronolegol, gan roi sylw arbennig, wrth wneud hynny, i'w bersonoliaeth, i'r prif gerrig milltir yn ei yrfa, i hynt a helyntion ei fywyd, ac i'r ffordd yr ymatebai i'r byd a oedd ohoni. Y nod yr anelir ati, fe'n hysbysir, ydyw 'dyfnhau dealltwriaeth y darllenydd o amgylchiadau creu gwaith llenyddol heb ymhonni fod hynny'n agos at ei esbonio'n llwyr'. Ymhlith cyfrolau eraill y bwriedir eu cyhoeddi yn y gyfres newydd hon y mae bywgraffiadau llenyddol o Iolo Morganwg, Islwyn, Daniel Owen, O. M. Edwards, T. H. Parry- Williams a Kate Roberts. Doeth a phriodol iawn, yn ddiau, ydoedd dechrau'r gyfres hon â chyfrol ar W. J. Gruffydd (1881-1954), 'ATHRO, BARDD, LLENOR', fel y disgrifir ef yn urddasol syml ar y darn o wenithfaen nadd sydd ar ei fedd ym mynwent Llanddeiniolen, ac un o bersonoliaethau mwyaf diddorol, mwyaf cymhleth a mwyaf arwyddocaol Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Er nad oedd, i'm tyb i, yn fardd gwirioneddol fawr, ni ellir amau am eiliad nad oedd yn fardd pwysig, un y mae iddo Ie arbennig yn natblygiad barddoniaeth ramantaidd Gymraeg yn gynnar yn y ganrif hon. Da y gwyddys mai 'Arglwydd ansoddeiriau a th'wysog iaith' oedd y disgrifiad a roddwyd ohono mewn soned gan R. Williams Parry, ac yn ei gerdd nwyfus 'Y Tlawd Hwn', ei gân orau yn ei farn ef ei hun, rhoes fynegiant i brofiad sylfaenol beirdd rhamantaidd pob oes. Efe hefyd ydyw awdur rhai o'r darnau rhyddiaith godidocaf yn holl hanes ein llên. At hynny, chwaraeodd ran amlwg iawn ac, ar adegau, ran ddylanwadol ym mywyd cyhoeddus ei ddydd, ac er iddo dynnu llawer iawn o lid ac o gasineb ar ei ben o dro *T. ROBIN CHAPMAN, W. J. Gruffydd; Cyfres Dawn Dweud, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993; tt. vii + 213; pris /12.95.