Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Proffwyd Mani a'r Profiad Mamol Manicheaeth yw'r enw a roir ar y grefydd a sylfaenwyd yn y drydedd ganrif Oed Crist gan y proffwyd Mani (216-277). Mewn un ystyr mae ef yn rhagflaenydd i Mwhammad, sylfaenydd Islâm. Ond mae elfennau yn ei gredo sy'n dal cyswllt â chrefyddau Zoroaster a'r Bwdha, hefyd ag Iddewiaeth a Christnogaeth; ac 'roedd Gnosticiaeth yn bwysig iddo. Bu Mani yn cyhoeddi ei neges yn gyntaf ym Mesopotamia ac wedyn yn y gwledydd cyfagos. Llwyddodd ei ddisgyblion i ledaenu ei neges yn yr Aifft a hefyd drwy'r Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin. Cafwyd llwyddiant mawr yn ogystal yng nghanol Asia yn ystod yr Oesau Canol; ac yno ffynnodd y grefydd hon hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg. Delwedd negyddol o'r byd materol: dyna un o nodweddion amlycaf y grefydd. I Mani nid oedd y Tad, sef yr unig dda a'r uchaf Dduw, erioed wedi meddwl am greu'r byd. Damwain ddinistriol yw'r Greadigaeth; nid y Tad dwyfol, ond rhyw fod isel, drwg, a hurt a'i cynhyrchodd. Dyna pam y ceir yn y Greadigaeth gymysgedd mor anffodus o'r Golau a'r Gwyll, o'r Da a'r Drwg. Gan hynny rhaid i'r Manichead cywir ymwrthod â phopeth sy'n sicrhau dyfodol y Greadigaeth. Yn arbennig rhaid iddo ymwrthod â phob cysylltiad rhywiol ac â chenhedlu. Nid yw'n syndod fod y ddysg ryfedd hon wedi codi gwrthwynebiad ac achosi erlid ffyrnig; ac yn y diwedd o hyn y daeth methiant y mudiad. Mae'n wir na fyddai'r Manicheaid i gyd yn cael eu rhwymo i'r safon foesol galetaf. Rhennid yr Eglwys Fanicheaidd yn ddau ddosbarth mawr: y cyntaf a'r uchaf yw'r Rhai Perffaith (galwyd hwy hefyd yn 'etholedigion' neu'n 'saint'), a'r dosbarth hwn yn unig a arddelai'r rhaglen foesol lawn. Islaw y Rhai Perffaith y mae'r Archwilwyr (neu 'leygwyr' neu 'wrandawyr'). Er bod eu statws yn is, mae mor gyfreithlon ag eiddo'r Rhai Perffaith, ac i'r dosbarth hwn y perthynai mwyafrif dilynwyr Mani. Rhoddid caniatâd