Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'r rhain weithio i ennill eu bywoliaeth fel amaethwyr ac ati; a byddent yn cynnal a chadw'r Rhai Perffaith. Er mor negyddol oedd yr agwedd at y Greadigaeth, gallai Mani (neu un o'i ddisgyblion) ddisgrifio yn un o'i ddamhegion, mewn dull synwhyrus dros ben, deimladau mam cyn ac wedi genedigaeth ei phlentyn. Mae'r testun Copteg yn llyfr A. Boehlig a H. J. Polotsky, Kephalaia, I, 1-10 (Stuttgart, 1940), tt. 205-6. Mae'r gwaith yn deillio o'r bedwaredd neu'r bumed ganrif O.C. ac ym Medinet Mâdi, yn yr Aifft Ganol, y cafwyd hyd i'r llawysgrifau Copteg. Amcan y proffwyd hwn yw profi bod 'y doethineb' a gyhoeddodd ef yn lles i'r Manichead sydd yn ei bregethu yn aml, yn fwy o lawer nag i'r Manichead sy'n distewi (o achos yr erlid), yn enwedig os yw'n fodlon myfyrio ar y doethineb hwn yn ei galon. Y DDAMEG 'Yn wir, y mae'r peth hwn yn debyg i'r hyn sy'n digwydd pan fydd plentyn bach gwryw yng nghroth ei fam feichiog; gan symud yn ei chroth hi mae ef yn ei llenwi â'i bresenoldeb. 'Y mae'r fam yn gwybod ac yn teimlo bod y plentyn y mae hi yn ei gario yn fyw y tu mewn iddi; ac y mae hi'n mwynhau'r profiad yn fwyfwy hyd yr amser pan fydd hi'n esgor arno a phan êl ef allan ohoni yn fyw, a'i aelodau wedi eu ffurfio'n dda, yn hardd iawn a heb nam, yn anadlu yn yr awyr rydd, eang, ddirfawr, ehangach na'r poced awyr y bu ef yn gaeth ynddo yng nghroth ei fam hyd at yr awr pan fydd yn llenwi ei lygaid â'r golau, gan weiddi â'i lais byw, yn debyg i lais ei rieni 'Yn wir, tra bydd y wraig yn cludo'r plentyn yn ei chroth, nid yw ei llawenydd yn ystod ei beichiogrwydd gymaint ag y mae pan fydd yn esgor arno ac yn ei weld ac yn syllu ar ei harddwch a'i ogoniant. Ar unwaith, pan ddigwydd hyn, bydd ei chariad ato a'i llawenydd ganwaith yn fwy nag yr oeddent. Oherwydd cyn hynny, tra oedd yn ei gludo yn ei chroth, yr oedd harddwch ei phlentyn a golwg ei lygaid yn gudd oddi wrth ei fam; ond yn y foment pan esgorodd arno, daeth ei ddisgleirdeb a'i ymddygiad i olwg ei dad a'i fam ac i olwg ei holl deulu. Fe orfoleddant hwy ynddo yn fwyfwy pan edrychant wyneb yn wyneb ar ei harddwch a phan welant ei hyfrydwch. 'Yn ôl y gyffelybiaeth hon, felly y mae'r doethineb sydd yng nghalon dyn: y mae'n ymdebygu i'r plentyn bach byw a feichiogwyd yng nghroth ei fam. Os yw ef er hynny yn ei ddysgu ac yn ei selio yng nghalon ei wrandawyr, bydd y doethineb fel y plentyn sydd wedi ei eni a'i harddwch yn cael ei weld bydd y doethineb yn tyfu'n fwyfwy bydd ei dwf a'i ogoniant yn cynyddu pan ddatguddier harddwch a disgleirdeb y gair i'r gwrandawyr. Bydd yn cynyddu eto yn dy glustiau dithau, ac fe fydd yr hyn a gyhoeddi yn rhyfeddol i ti.'