Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Annisgwyl efallai yw dod o hyd i'r darlun teimladol hwn o brofiad mam yng ngwaith proffwyd a edrychai ar briodas a chenhedlu fel ymestyniad anfad o nerth anffodus y Greadigaeth. Mae'n enghraifft er hynny o'r pellter a geir bob amser rhwng damcaniaeth a realedd. Dylid cofio bod statws crefyddol yr Archwilwyr Manicheaidd mor gyfreithlon ag eiddo'r Rhai Perffaith, er ei fod yn israddol iddo. Gallai Manichead gonest o'r dosbarth hwn gael plant a'u codi gyda chydwybod dda, ond yn ostyngedig hefyd, heb amheuaeth yr oedd y caniatâd hwn yn oddefiad gwendid ysbrydol anochel dros amser. Gellid gwella'r gwendid hwn yn y byd hwn neu'r byd dyfodol, a chyrraedd y radd gyfyngaf a chaletaf. Credai'r Manicheaid mewn ailymgnawdoliad. Ymddengys felly y gallai'r Manichead o'r dosbarth Perffaith, er gwaethaf yr asgetigiaeth iachus a arferai ei hun, edrych yn garedig ar gariad dau o'r Archwilwyr ieuainc, y cariad sy'n blaguro ac yn arwain at briodas ac at y famolaeth sy'n ffrwyth naturiol ohoni. Mae'r teimladau dynol sylfaenol yn ysbrydoli awdur y bennod wrth iddo apelio am ddewrder yn wyneb erlid. Dylem ddeall y ddameg Fanicheaidd drwy ei gosod yn fframwaith yr holl fudiadau sy'n amddiffyn achosion mawr hwmaniaeth, gan gynnwys heddwch a chyfiawnder a chariad; hefyd problem unfathiant diwylliannol sydd mor amlwg yng Nghymru. Yn sicr daw'r her yr un modd i'r Eglwysi Cristnogol sydd weithiau mor fud, gan lesgedd hwyrach a hoffter cysur, neu o leiaf gan ofnusrwydd wrth wynebu edliwiad galluogion y byd hwn. Y mae bywyd gorbwyllog yn farwol o ddiflas. Syched am y dwfr byw a newyn am y bara byw sy'n rhoddi'r iasau cryf, bywhaol, yn rhoddi'r bywyd dilys, yng ngolau'r Gwir; yn rhoddi'r Cariad nad oes gyfiawnder hebddo a'r Cyfiawnder nad oes gariad hebddo. RADOLPHE KASSER (Athro Coptoleg ym Mhrifysgol Genefa)1 Troswyd o'r Ffrangeg i'r Gymraeg gan ARIEL SHISHA-HALEVY (Athro Ieitheg ym Mhrifysgol Hebraeg Jerwsalem)2 Golygwyd yr ysgrif hon, gyda pheth cwtogi, gan yr Athro-Emeritws J. Gwyn Griffiths, Abertawe. Nodiadau 1 Yr Athro Kasser yw awdur cyfrol safonol ar Yr Efengyl yn ôl Thomas: L'Evangile selon Thomas: Présentation et commentaire théologique. (Neuchâtel, 1961). Cyhoeddodd hefyd lu o efrydiau ar y testunau Copteg o Nag Hammâdi yn yr Aifft a ddarganfuwyd ym 1945-46. 2 Mae'r Athro Shisha-Halevy wedi dysgu Cymraeg a bu'n gweithio gyda'r Athro D. Ellis Evans yn Rhydychen. Bydd erthygl ganddo ar agweddau o gystrawen y Mabinogi yn ymddangos cyn hir yn Studia Celtica, a olygir gan yr Athro D. Ellis Evans, etc. Ym maes Coptoleg ef yw'r awdurdod pennaf ar weithiau Shenwte, llenor mawr yr Eglwys Goptaidd a'i mudiad mynachaidd.