Jones y Dwyrain 1746-1794
Bu farw Syr William Jones union ddau gan mlynedd yn ôl, yn wyth a
deugain oed.* Enwyd coeden hardd ar ei ôl. Crybwyllir ei enw yn 1066
and A11 That, ond mwy annisgwyl yw'r rhan cameo sydd ganddo yn
un 0 lyfrau Babar, sef Babar and Father Christmas. Ffrwyth ei oriau
hamdden oedd erthyglau megis 'On the Lorus, or slow-paced Lemur';
'On the Pangolin of Bahar'; 'On the Baya, or Indian Gross-beak'; ac
'On the cure of the Elephantiasis and other disorders of the blood'. Yn
ôl y traddodiad, pan gyfarfu â brenin Ffrainc, cafodd ei gyflwyno fel
'dyn a wyr bob iaith ond ei iaith ei hun'. Yr oedd ei dad yn Gymro
Cymraeg ac yn fathemategydd dawnus, ac yr oedd ef ei hun yn briod â
merch Esgob Llanelwy. Yn farnwr wrth ei alwedigaeth, fe gafodd
ddylanwad aruthrol ar lenyddiaeth Ewrop drwy ddwyn i sylw'r
Gorllewin ieithoedd a llên y Dwyrain. Efe, hefyd, a ystyrir yn dad
Ieitheg Gymharol oherwydd iddo, yn ddiarwybod bron, lunio'r
gosodiad diamwys cyntaf fod nifer o ieithoedd Ewrop ac India yn
tarddu o'r famiaith goll a elwir bellach yn Indo-Ewropeg.
Dan adain ei dad y mae'r cofnod am Syr William Jones yn
Y Bywgraffiadur Cymreig. William Jones oedd enw'r tad hefyd (1680-
1749), mathemategydd disglair a ddaeth yn gyfaill i Newton a Halley,
ac yn Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol. Ganwyd y tad yn
Llanfihangel Tre'r Beirdd, yn y tyddyn nesaf at y Fferem lle ganed
Morrisiaid Môn. Ac yn wir, yn ôl Lewis Morris, 'roeddent yn brith
berthyn iddo drwy Elizabeth Rowland, ei fam-gu ar ochr ei fam.
Symudodd y teulu i'r Tyddyn-bach, Llanbabo ('Pabo' oedd llysenw
William gan y Morrisiaid), ac yna, ar farwolaeth y tad, i Glymwr yn yr
un plwyf.
Sgwrs anffurfiol a draddodwyd yn Aberystwyth, Hydref 1991. Mae gan Dr. Caryl
Davies ymdriniaeth fanylach o lawer â Jones a Chymru ar y gweill; fe fydd ei
herthygl yn ymddangos yn un o rifynnau nesaf Y Traethodydd.
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.