Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fe'i cyhoeddwyd yn 1770 ynghyd ag ysgrif ar farddoniaeth ddwy- reiniol. Yr un flwyddyn, dechreuodd Jones astudio gogyfer â'r Bar, Yn 1771, cyhoeddodd waith hynod bwysig, sef A Grammar of the Persian Language, 'characterized by great elegance and humanity', yn ôl un beirniad. Ar gorn y gwaith hwn, etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1772, blwyddyn cyhoeddi casgliad dylan- wadol o gerddi wedi eu cyfieithu o'r ieithoedd dwyreiniol, sef Poems, Consisting Chiefly of Translations from the Asiatick Languages. Yn 1773, ymunodd â Chlwb Samuel Johnson a thrwy hynny daeth i gysylltiad â Joshua Reynolds (a baentiodd lun enwog ohono), Gibbon, Sheridan, Burke ac eraill. Dr. Johnson ei hun a anfonodd gopi o'r Gramadeg Perseg at Warren Hastings, Llywodraethwr India. Yn goron ar hyn i gyd, dyma gyhoeddi yn 1774 waith chwe chyfrol mewn Lladin ar farddoniaeth y Dwyrain. Yn 1778 fe'i cynigiodd ei hun i ystyriaeth am swydd Barnwr yn India. Ond bu raid iddo ddisgwyl am bum mlynedd cyn ei chael, a hynny'n rhannol oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol radical. Fel ei dad-yng-nghyfraith, yr Esgob Shipley, yr oedd yn frwd iawn dros yr Americaniaid a'u brwydr am annibyniaeth: 'Every man among them is a soldier, a patriot. Subdue such a people? The king may as easily conquer the moon or wear it in his sleeve', meddai. Yr oedd yn ffieiddio caethwasiaeth hefyd, a rhoes fynegiant barddol grymus i'w syniadau radical. Mae ei ddisgrifiad o'r seithfed Arglwydd Bulkeley, a gyfarfu yn ystod cylchdaith fel cyfreithiwr yng Ngogledd Cymru yn 1775, yn ddadlennol. Pan glywodd y bonheddwr ifanc yn dweud fod 'persons of rank were already treated with too little respect', ei ymateb oedd hyn: 'Now I always thought that persons of virtue and merit were treated with great respect whether of rank or no, and I never learned that mere rank. was entitled to any respect by the rules of nature or society.' Gwelir yr un ysbryd iach maes o law yn ei ymwneud beunyddiol â thrigolion India, hyd yn oed y rhai distatlaf y deuai ar eu traws. A rhaid nodi hefyd ei fod yn ystyried mai dros dro yn unig y dylai'r Gorllewin lywodraethu India, hyd nes bod ei phobl yn barod i gymryd yr awenau i'w dwylo eu hunain. Yn wir, nodweddid holl yrfa Jones gan wyleidd-dra a pharch at hawliau a theimladau a daliadau eraill. Tra oedd yn disgwyl yr alwad i fynd i India, cyhoeddodd An Essay on the Law of Bailments (1781), gwaith a ystyrir yn glasur yn llenyddiaeth y gyfraith. Ond mae'n amlwg hefyd fod Jones yn ymbaratoi ar gyfer y swydd mewn ffyrdd eraill. 'Roedd ef, fel Warren Hastings, o'r farn bendant y dylid rheoli India yn ôl ei chyfreithiau brodorol ei hun (rhai Islam a Hindw); a chyda hynny mewn golwg, cyhoeddodd (gyda chyfieithiad Saesneg) destun cyfraith ar y gyfun- drefn etifeddiaeth yn India. Pan gadarnhawyd ei benodiad fel Barnwr yn 1783, urddwyd ef yn