Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mynegiant o safbwyntiau ac argyhoeddiadau crefyddol nag mewn ffurf sectyddol ymosodol. Nid yw Piwritaniaeth o angenrheidrwydd yn bwer sy'n gweithredu'n adweithiol y tu allan i'r Eglwys, ac ni ddylid bychanu dylanwad deallusol na gweithredol unigolion a charfannau ynddi a garai gyfoethogi ysbrydolrwydd o'i mewn yn hytrach na'i dinistrio. Saif un nodwedd yn amlwg, sef y pwyslais a roddai'r aden fwy eithafol yn yr Eglwys ar yr angen am weinidogaeth i bregethu'r Gair ac i'r genhadaeth honno gyrraedd y distatlaf yn y gymdeithas. Wrth drafod cyfraniad Rhys Prichard i'r Eglwys yng Nghymru ni ddylid ei ddehongli'n unig fel Piwritan — yn ystyr arferol y gair -eithr fel clerigwr a oedd yn ymwybodol, nid yn unig o wendidau ym mywyd ysbrydol ei blwyfolion ond hefyd o ddiffygion yn natur ac effeithiolrwydd y weinidogaeth y rhoddwyd iddi'r ddyletswydd i'w chyflawni. Nid aeth Rhys Prichard ati o gwbl i ddiwygio trefniadaeth na defodaeth eglwysig eithr pwysleisiodd anghenion ysbrydol yr aelod unigol ynddi ac ar ei ymarweddiad Cristnogol. Y mae'n wastad yn ei gerddi'n rhoi'r lle blaenaf i'r Beibl, y Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Llyfr Plygain, a chynhwysir ynddynt ystyriaeth i amrywiol weddau ar fywyd ac amgylchiadau'r plwyfolion unigol. Pwysleisir yn bennaf ganddo y ddisgyblaeth Gristnogol — defosiwn, ysbrydoledd a gras yn ei pherthynas ag 'athrawiaeth uniongred', 'bywyd sanctaidd' a'r ymbil weddigar. At hynny, pwysleisir ganddo'r angen i gydymffurfio â defodau'r Eglwys a safle canolog y penteulu yn y gorchwyl o sicrhau undod yr uned deuluol a'r modd i'w hyfforddi.7 Yr oedd y sefyllfa grefyddol yn peri gofid i rai offeiriaid a wyddai am yr angen i ddisgyblu'n foesol ac i barchu a chynnal credoau'r Eglwys. Amlygwyd hynny gan Robert Llwyd yn ei ragymadrodd i Llwybr hyffordd i'r nefoedd pan ddywed mai ei fwriad yw 'gwneuthur iti lesâd, a dwyn diddanwch i'th enaid'. Rhydd gryn bwyslais ar hyfforddiant a graslonrwydd wrth ymdrin â materion o'r fath. 'Oni wnei daioni i dylwth dy dŷ', meddai'n y cyd-destun hwnnw, 'na wna gam a hwynt am ymborth eu heneidiau Darllein hwn gan hynny i'th wraig, ac i'th blant'.8 Ac o safbwynt arall mynega John Lewis o'r Glasgrug, Llanbadarn Fawr, Ceredigion, yn ei draethawd Con- templations upon these Times (1646) yr unig safiad dros y blaid seneddol yng Nghymru yn y Rhyfel Cartref ei farn na wyddai Cymry beth a olygai gwir Brotestaniaeth: I must tell you, we are deceived, and do not know our own condition: we will needs be accounted good Protestants, when, alas, how can that be, when we want the means to become so?9 Fel pleidiwr dros y senedd nid oedd ganddo eirda i'w ddweud am y Llyfr Gweddi Gyffredin, a chyfeiriodd at wendidau sylfaenol yr Eglwys. Tanlinellodd yr angen am weinidogaeth bregethu effeithiol: