Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YN EGLWYS LLANDEILO BERTHOLAU, GER Y FENNI (Geiriau y dychmygais eu clywed o enau'r hen offeiriad, Thomas Jones, fl. c. 1580-1620, awdur cân o fawl i'r Esgob Morgan, wrth edrych ar ei gofeb yn yr eglwys.) 'Yma yr offeiriadwn y Gair o ddwylo Morgan A ninnau Gymry'n llon bob un o'i gaffael yn ein hiaith ein hun. A lluniais innau folawd 'fu wrth y slafdod beichus gan oddef, heb na chwyn na braw, fryntni plwyfolion ar bob llaw. 'Cans ffrwyth hyn o Ddiwygiad, oedd troi y Gair i famiaith Ac wele ffeirio'r Lladin claf am iaith fy mhobl o Glwyd i Daf Ond trois o'i Wydd yn sydyn yr iaith nad yw'n Llandeilo Mor chwith f'ai dweud na cheir drwy'r plwy' un ias ohoni yma mwy. JOHN EDWARD WILLIAMS Cerdd pan ddaeth fel gwawr i'n byd gan chwalu'r nos 'fu cyd. i'r esgob dyfal hwn am ugain mlynedd, gwn, er maint y tyndra a'r gwawd, gwerinoedd ysig, tlawd. rhag ofn yr holai hynt Bertholau'i lafur gynt.