Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dylanwady Sinema ar Lenyddiaeth Gymraeg Hanes modern iawn sydd i'r sinema yng Nghymru, o'i gymharu â hanes llenyddiaeth fwy neu lai oddi mewn i'r ugeinfed ganrif- er bod y sinema yn gyfrwng sydd yr un mor hen â'r nofel Gymraeg, fel y dangosodd Mihangel Morgan'. Daeth y ffilm i Gymru gyntaf yn 1884, yr un flwyddyn â chyhoeddi Gwen Tomos Daniel Owen, a dadleuai rhai ei bod yr un mor ddieithr i Gymru ag yr oedd ffurf y nofel hir. Ffurfiau wedi eu mewnforio ydyw'r ddwy ffurf, ond rhai sydd bellach wedi hen ennill eu plwyf yng Nghymru ac yn y Gymraeg. Mewn adeiladau mawr, moethus ac aml-sgrin yn y dinasoedd y dangosir ffilmiau bellach, er bod fideo a theledu yn gyfrifol am grebachu'r cyfrwng i focs yn ystafelloedd byw ein cartrefi. Ond bu'r Picture Palaces yn dipyn mwy amlwg mewn trefi a rhai pentrefi yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl; caeodd llawer erbyn hyn, ac ymdebyga llawer ohonynt bellach i hen gapeli gweigion yr aeth eu pwrpas gwreiddiol bron yn angof. Nid yn ysgafn y defnyddir y gymhariaeth hon rhwng y sinemâu a'r capeli, ac ystyrir y cysylltiad sydd rhwng y ddeubeth o bryd i'w gilydd yn yr ysgrif hon. Cydnabyddir dylanwad y capeli ar ein cymdeithas yn agored a helaeth, ond bu'r sinemâu hefyd yn ddylanwadol iawn ym mywyd cymdeithasol Cymru, fel y dengys David Berry yn ei gyfrol Wales and the Cinema: The First Hundred Years2. Hoffwn innau ddangos yn yr ysgrif hon sut y taflodd y sinema ei gysgod yr un mor bendant ar ein llenyddiaeth, a sut y bu iddo ddylanwadu ar ddelweddaeth a hyd yn oed y psyche llenyddol Cymraeg. Yn ei erthygl gynhwysfawr, 'South Wales and the Cinema in the 1930's' dengys Stephen Ridgewell gymaint o ddylanwad a gâi'r sinema ar fywyd trigolion de-ddwyrain Cymru yn y cyfnod o ddirwasgiad enbyd rhwng y ddau ryfel byd: Of all the attractions outside the home, the cinema is pre-eminent. Most boys and girls go to the cinema at least once a week; many go twice a week The cinema forms a very real background to their