Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Cristnogol Gwilym R. Jones YR OEDDYM NI YNO Mae ar ein traed-ni laid Caersalem O'r Pasg y flwyddyn Tri-deg-tri; Mae ar ein dwylo greithiau ddraenen honno A blethwyd gennym at yr uchel sbri. O! yr oeddym ninnau yno, Ond 'rydym rywsut wedi hen anghofio. Fe grach-boerasom ninnau'n wyneb Cariad Pan faglai dan y pren ar stryd y dref, Ei bwnio yn ei gefn â dwrn a phastwn A sgrechian gyda'r dorf: 'Croeshoelier efl' O! yr oeddym ninnau yno, Ond 'rydym rywsut wedi hen anghofio. O'n ffowndri ni y daeth yr hoelion A'r wayw-ffon a'i gwanodd O.¾ Mae arian Rhufain fawr a'r Archoffeiriad Yn dal i'n dallu yn uffernau'r co'. O! yr oeddym ninnau yno, Ond 'rydym rywsut wedi hen anghofio. Safasom dan y teircroes dan fytheirio I wylio'i waed yn tasgu hyd y llawr, Am na chodasom fys i arbed y diniwed, Nyni sy'n euog o'r Fradwriaeth Fawr. O! yr oeddym ninnau yno, A byth ni ddylid gadael inni ei anghofio.