Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Piers Y mae ym meddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad o lawysgrifau a ddisgrifir yn yr Handlist of Manuscripts fel some forty five unbound home-made notebooks and fragments of sermons and expository notes largely in the hand of John Piers (Pierce), vicar choral of Caerwys and rector of Llandderfel.'1 Y mae peth dirgelwch ynglyn â blynyddoedd cynnar y John Piers hwn: Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yng Nghofrestr Fatriciwleiddio'r Brifysgol, dywedir iddo ymaelodi â hi o Goleg Oriel ar Fawrth yr ugeinfed 1634/5, ac yntau'n laslanc deunaw mlwydd oed.2 Dywed cofrestr Coleg Oriel ei fod yn dod o Llanycil ac mai mab ydoedd i 'Joh. de Llanychill'.3 Y mae peth dryswch yn codi i'r wyneb yn gynnar fel hyn gan fod yr Alumni Oxonienses, sydd i fod i grynhoi'r dystiolaeth gynnar, yn ei wrthddweud ei hun. Mewn un man nodir ei fod yn fab i Thomas, mewn man arall mai mab John ydoedd.4 Dyma gyfnod y gwelodd Llanycil ddau reithor yn arddel y cyfenw 'Pierce', ac yn dwyn yr enwau bedydd Thomas a John. Daeth John Pierce yno ar y pumed ar hugain o Dachwedd 1615 0 blwyf Llangynog, Sir Drefaldwyn a Thomas ar y trydydd ar hugain o Awst 1626,5 hyn yn ôl cofnodion y Taliadau Blaenffrwyth yn Llys y Siecr. Dengys cofnodion eglwys blwyf Llanycil, fodd bynnag, fod Thomas eisoes yno cyn gynhared â 1622, oherwydd ceir cofnod geni Catherina merch Thomas Piers yn y flwyddyn honno, ac fe'i dilynwyd gan ei chwiorydd Jane (1624), Deborah (1626), Rebecca (1628), a Rosamunda (1630).6 Claddwyd Thomas Piers ym mynwent Llanycil yn Ionawr 1642. Y mae ei ewyllys7, a brofwyd ar y trydydd dydd o Ionawr 1640/1 hefyd ar gael, ac ynddi fe gofnodir enwau'r holl ferched hyn, yn ogystal â merch arall o'r enw Alice a dau fab yn dwyn yr enwau John a Robert. Cawn yn yr ewyllys fod ei ferch Ales the wieffe of John ap Ellys' i dderbyn 'twenty shillings of currant Englyshe money'. Cawn hefyd fod