Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARIAN HENRY JONES Y Gymraes a Fienna, Annwyl fulia (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf., 1996) £ 5.95. Ym mis Chwefror 1997, cyhoeddwyd erthygl yn Die Frankfurter Allgemeine a achosodd gryn sioc i mi a llawer o bobl eraill, y tu mewn a'r tu allan o'r Almaen. Soniwyd am araith yr oedd Malcolm Riffkind, trysorydd llywodraeth Prydain, wedi ei thraddodi yn yr Almaen, gan gyfeirio ato fel der Jude Riffkind, h.y., yr Iddew Rifflcind. Cynhyrfwyd fì gan y ffaith na theim- lodd yr awdures ieuanc, dynes a anwyd o leiaf ugain mlynedd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, gywilydd dros ei dewis o eiriau. I'r gwrthwyneb, gwelodd y cyfeiriad yn un 'doniol'. Ni welodd golygydd y papur pwysig hwn arwyddocâd y faux pas, ychwaith. Y mae digwydd- iadau o'r fath yn arwydd o berygl. Y mae'n ymddangos, felly, fod llyfrau fel Annwyl Julia gan Marian Henry Jones cyn bwysiced heddiw ag erioed. Ymdrech yw'r llyfr hwn i 'dynnu sylw drachefn at broblemau canoldir Ewrop yn gyffredinol', a hynny gan rywun a oedd yn byw yn Adolygiadau Fienna yn ystod 1936 a 1937, ac a ddychwelodd i'r ddinas honno bron hanner canrif yn ddiweddarach. Fe ŵyr pawb sydd wedi cael y fraint erioed o sgwrsio â Marian Henry Jones am ehangder ei gwybodaeth a chyfoeth ei chof, a hefyd am y ddawn dweud a roddwyd iddi. Yn ei chyfrol newydd, y mae'r tri yn dod ynghyd mewn cyfres o ddeg o lythyrau a anfonwyd at ei chyfaill Julia yn 1989. Y maent yn taflu goleuni ar hanes yr ymerod- raeth Awstro-Hwngaraidd yn ogystal â chreu i'r darllenydd ddarlun byw o fywyd Fienna ddoe a heddiw. Drwy ymweld unwaith eto â lleoedd hanesyddol a safleoedd sydd o bwysigrwydd iddi, y mae'r awdures yn nesu at bwnc canolog ei llyfr: sef tynged ei chyfeillion o'r flwyddyn 1936. Cawn ddisgrifiadau hynod o ddiddorol ac addysgiadol o adeiladau ymerodrol, fflatiau'r crachach, cafés bach a thrigfannau'r bobl gyffredin ar y ffordd. Cafodd yr awdures flas ar holl ysblander yr hen ymerodraeth yn yr Archifdy Gwladwriaethol, yr adeilad mawreddog hwn, gan ei bod yn gwneud ei hymchwil yno. Ceir disgrifiadau yr un mor ysblennydd ganddi o'r hen adeiladau. Cawn