Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynediad i'w llety yn y 'ffiat grandiaf' y bu hi'n byw ynddi erioed, sef i 'wyth neu naw o ystafelloedd eang iawn, wedi eu haddurno a'u dodrefn yn ffasiwn degawd cyntaf y ganrif Y mae hi hefyd yn mynd â ni i faestrefi ar gyrion Fienna, lle y trigai ei chyf- eillion ymhlith y werin, gydag 'un ystafell i fyw a chysgu ynddi, y gwely dwbl anferth, a gwely sengl Walter, yn yr un ystafell, wardrob fawr, a bwrdd i dri wrth y ffenest hir a agorai ar falconi gweddol helaeth.' Fel y soniwyd eisoes, y bobl hyn sydd yn hawlio'r lle blaenllaw yng nghof a chalon yr awdures. Cyf- lwynir y darllenydd i'w chyfeillion o wahanol haenau cymdeithasol y ddinas fawr, megis Mrs. Melanie Rotter, y fenyw sydd yn ein gwylio o'r clawr gyda'r 'wyneb tristaf a welais erioed' (chwedl Marian). Trwy fywyd y teulu hwn, cafodd Marian flas ar ddiwylliant y dosbarth canol. Y mae ei disgrifiad o achlysuron diwyllianol yn atseinio'r Amati, ffidl Eidaleg Mrs. Rotter, yn ei salon moethus, henffasiwn. Cawn ein cyflwyno, drwy bobl megis Ella, Thelda a Felix, i fyd bywiog y caffi bach yn Fienna. Y tu allan i'r ddinas, ym maestref Schönbrunn, yr ydym yn cwrdd â'r teulu Fischer. Nid oedd ganddynt arian mawr, ond yr oedd croeso twymgalon i'r awdures bob pryn- hawn Gwener pan fyddai yn ymweld ag Anna, gwraig Rudolf y gweinydd. Y mae disgrifiad o'r dafarn lIe y cyflwynwyd Marian i'r Heurigen, gwin y flwyddyn, gan Rudolf yn fythgofiadwy. Dros y blynyddoedd, y mae'r awdures wedi dilyn tynged bron pob un o'r ffrindiau y daeth hi i'w nabod yn y tridegau. Felly, cawn hanes, hefyd, yr hyn a ddigwyddodd iddynt 'yn 1938, pan enillodd y Natsïaid y fuddugoliaeth drwy ymyrraeth Hitler.' Hanesion trist yw'r rhan fwyaf ohonynt, er eu bod yn dra phwysig. Y maent yn dangos effaith polisïau hiliol a rhyfelgar ar fywyd unigolion yn well nag y gallai un- rhyw lyfr hanes. Dysgwn sut y bu farw Ella, un o'r ffrindiau Iddewig, mewn ysbyty meddwl ym Mhales- tina, sut y llwyddodd rhan o'r teulu Rotter i ddianc rhag crafangau Hitler, a hefyd hanes trist y gweddill a fu farw yng ngwersylloedd y Natsïaid. Er nad ydwyf erioed wedi bod yn Fienna, teimlaf fy mod yn gyfarwydd â'r ddinas a'i phobl ar ôl darllen disgrifiadau hynod fywiog a manwl Marian Henry Jones. Y mae'r bennod ar y cefndir, sydd yn dod ar ddiwedd y llyfr, yn gyflwyniad gwerthfawr i hanes y teulu ymer- odrol a'r pobloedd yr oedd yn eu llywodraethu. Dyma ddeunydd darllen anhepgorol i bawb sydd â diddordeb mewn diwylliant a hanes pobloedd canoldir Ewrop, ac sydd yn mwynhau darllen Cymraeg safonol deheudir Cymru. Fel Almaenes, hoffwn weld gyfieithiad o'r llyfr i'r Almaeneg, er mwyn pobl megis awdures ieuanc yr erthygl hiliol yn Die Frankfurter Allgemeine. MARION LÖFFLER J GWYN GRIFFITHS, Triads and Trinity (University of Wales Press, Cardiff, 1996), tt.362 Hyfrydwch pur yw cael croes- awu cyfrol ddiweddaraf yr Athro Emeritws J. Gwyn Griffìths. Prin yn wir y cododd ein Prifysgol glasurwr mor ddisglair ac mor ddiwyd. Mae ei ymroddiad diflino i ysgolheictod yn codi cywilydd ar y to iau, a rhychwant ei ddiddordebau a chyn-