Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drindod yw'r gred mewn triundod, yn sicr disgwyliem weld dylanwad etifeddiaeth yr Aifft. Chwiliwn yn ofer am y pwyslais ar gyfartaledd yn yr athrawiaeth gynnar ei hun, ac 'roedd rhwystrau yn ffordd y dylanwadau allanol hwythau. Ar undduwiaeth y gosodai Iddewiaeth y pwyslais; nid ystyrid amldduwiau'r Groegiaid yn gyfartal; ac yn yr Aifft i'r blaenaf o'r duwiau y rhoddid y flaenoriaeth. Ac felly yn natblygiad athrawiaeth y Drindod yr elfen newydd oedd gosod y pwyslais ar gyfartaledd y Tri Pherson. A chyfoethog i gloi'r gyfrol yw sylw- adau'r awdur fel clasurwr a diwinydd ar yr amrywiol ddeongliadau a gaed ar yr athrawiaeth hyd y ganrif bresennol. Ar ddiwedd y gyfrol ceir llyfrydd- iaeth hynod o gynhwysfawr gyda chyfraniad yr awdur ei hun yn doreithiog; nodiadau tra derbyniol ar y darluniau sy'n cyfoethogi'r testun; a mynegai hwylus a buddiol. Wrth groesawu'r gyfrol wych hon a llon- gyfarch yr awdur, rhaid yr un pryd longyfarch Gwasg y Brifysgol ar y diwyg tra deniadol ac am waith argraffu neilltuol 0 lân a chymen. TELFRYN PRITCHARD. GWYN MORGAN, Y Paffiwr a Cerddi Eraill. Gwasg Gomer, Llan- dysul, Ceredigion. t.62, Pris £ 4.50. Dyma'r ail gyfrol o farddoniaeth Gwyn Morgan, brodor o Drecynon ac athro bellach yn Ysgol Gymraeg Aberdâr. Cefais gymaint o flas a boddhad wrth ddarllen y gyfrol hon nes medru dweud ar ei ben ar ddechrau hyn o adolygiad y byddaf yn chwilio yn siopau-llyfrau Cymraeg Caerdydd am gopi o'i gyfrol gyntaf, (Caliban a Cherddi, 1993), y tro nesaf yr af yno. Yn sicr, cododd darllen ei ail gyfrol wanc ynof am ragor o gerddi'r bardd disglair hwn. Llun paffìwr (Howard Winstone) ag un llygad ynghau sydd ar glawr y gyfrol hon. Nid oedd y llyfr yn fy nhynnu ato ar yr olwg gyntaf. Nid wyf yn un o addolwyr yr adloniant anifeilaidd hwn er y dylwn ddweud bod ewythr i mi (brawd fy mam) yn bencampwr amatur Cymru yn y tri- degau a bod dau weinidog llengar, un ohonynt yn brifardd hefyd, yn sôn amdano yn eu hunangofiannau! Ond, o'm rhan i, na 'adroddwch amdano yn Gath' ac na 'mynegwch amdano yn heolydd Ascalon!' (2, Samuel, 1, 20) Yn yr ail gyfrol hon cawn 73 0 gerddi. Cerddi byrion neu cameos ydynt. Nid annhebyg ydynt i gyn- nyrch ysgol yr Tmagists'. Y mae hi'n gyfrol gytbwys dda a ddengys fod ei hawdur yn feirniad ar ei waith ei hun. Medr drin y mesurau set a'r soned yn ogystal a'r vers libre ond yn y cerddi vers libre y dengys ei arbenigrwydd. Nid oes, 'ddaliaf fi, un gerdd sâl a distadl yn eu plith. Ceidw'r bardd hwn y safon a honno'n un uchel. Yn sicr, y mae gan y bardd hwn allu i drin geiriau'n rhiniol. Dylai barddoniaeth weddnewid yr iaith, boed yr iaith honno mor syml ag y bo, a gwneir hynny yn y gyfrol hon. Mae'r ansoddeiriau'n newydd a thrawiadol: 'menig estron' y paffwyr o wlad arall; 'tonnau tawdd' ('Dychwelyd', t.51). Nid yw edrych yn ddigon i fardd, rhaid iddo weld. A defnyddio gair mawr, rhaid wrth 'weledigaeth'.