Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd ac Emyn RICHARD HUGHES WILLIAMS 'DICTRYFAN' 1878? 1919 (Ar ôl dod ar draws ei fedd, ar ddamwain, ym mynwent Aberystwyth) Cyn bod D.J. na Kate a'u straeon gwych 'r oedd ef yn Arfon wedi codi'r llen wrth greu dynionach, yn eu hwyl a'u nych, a'u hanfarwoli ar y ddalen wen. Ond cynnar oed ag angau a fu rhan darluniwr Robin, Sam a'u cledi trwch; ei gladdu 'mhell o'r Cilgwyn ac o'r Llan a rhoi arysgrif Saesneg uwch ei lwch. Ac wedi'i ddydd, er llunio llawer camp 'Y Goeden Eirin' a'i holl ffrwythau hi; 'Y Llwybr Arian' gyda'i sant a'i sgiamp a gwyrth 'Marwydos' yn ein dyddiau ni ef yw'r arloeswr fyth, a'n parch 'fo'n llaes i'r gŵr 'fu'n agor grwn gwyryfol faes. JOHN EDWARD WILLIAMS