Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMYN: CYFFWRDD YMYL EI WISG EF (Marc 5, 25-34) Gyda'r dorf sydd heddiw'n ceisio balm yr Iesu, deuwn ni; Ef o hyd a ddwg ymwared i bechadur dwys ei gri. Mewn physygwyr gau y rhoesom ein holl ffydd, ac iddynt hwy rhoesom yn oludog ddibrin heb erioed gael balm i'n clwy'. Dwfn yw'r drwg a phell o gyrraedd gorau dysg a gallu dyn, ac fe chwalwyd pob rhyw obaith o du'r ddaear, un ac un. Cyffwrdd 'wnawn â'i wisg yn ffyddiog gweddi, mawl a gair y nef a daw inni'r rhin achubol î sydd yn tarddu ohono Ef. JOHN EDWARD WILLIAMS