Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Problem Prifysgol I. Egwyddor wael i seilio buchedd arni yw 'Cilwg yn ôl', ond ambell dro gall ei bod yn angenrheidiol cilwgu peth yn ôl cyn cerdded peth ymlaen.* Wedi 30 mlynedd a mwy ar staff Coleg y Gogledd, a dim llawer llai na 40 mlynedd o gysylltiad â'r Coleg ac â'r Brifysgol, siom, rhwystredigaeth a chwerwder sy'n llenwi fy meddwl wrth edrych yn ôl ar hanes Dysgu Trwy'r Gymraeg (DTG). Pan ymunais â'r staff ym Mangor ganol y chwe-degau yr oeddwn i, a gwn fod eraill yr un fath â mi, yn rhyw gymryd ac yn rhyw ddisgwyl y byddai pethau'n gwella gydag amser. Nid yw pethau wedi gwella. Maen nhw wedi dirywio. Popeth a enillwyd ym Mangor, fe'i henillwyd er gwaethaf ac yn rhannol oherwydd gwrthwynebiad y diweddar Syr Charles Evans. Oddi ar 1985, a 'Nixon ddim yma i'w gicio ddim mwy', nid enillwyd DIM. Heriaf unrhyw un i brofi ei bod hi damaid gwell yn Aberystwyth. Yn y flwyddyn 1958 gwnaed y penodiad cyntaf o fewn y Brifysgol wedi ei ddynodi'n arbennig ar gyfer DTG; dyma hefyd pryd y mabwysiadwyd y polisi o grynhoi DTG yn Aberystwyth a Bangor. Ar ôl 40 mlynedd fe ddylai fod yn bosibl gwneud gradd anrhydedd TG YM MHOB PWNC YN Y DDAU GOLEG HYN O LEIAF. 'Does dim math o arwydd bod neb yn unman hyd yn oed yn dechrau meddwl am hynny. Truenus, pathetig ac affwysol. Ar droad milrif, dylem feddwl eto am strategaeth a chynllun eofn a' n cyfyd o'r gwarth a'r trueni hwn. Ond cofíer, pa gynllun bynnag a Papufa bárätòẅyd ár ^fer cỳnhädlëdd (23.1.98) a drefnwyd gan amryw gyrff ar y testun 'Y Gymraeg i Blant un ar bymtheg a chwedyn.