Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Statws Cyfreithiol yr laith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif* Yn nechrau'r ganrif hon, 'roedd y gorthrwm a osodwyd ar Gymru gan gymal 17 (cymal iaith) 'Deddf Uno' 1536, yn parhau o hyd.1 Saesneg oedd iaith swyddogol y llysoedd ac alltudiwyd y Gymraeg bron yn llwyr o weinyddiaeth gyhoeddus. Ond Cymru oedd aelwyd y Gymraeg. Ym 1900 y Gymraeg oedd mamiaith hanner ei phoblogaeth a phymtheg y cant yn dweud eu bod yn uniaith Gymraeg. Y flwyddyn honno clywyd 91,000 o achosion yn llysoedd Cymru,2 ond nid yw'r ystadegau yn dangos y nifer a dystiodd yn Gymraeg. Yn llysoedd Cymru, yn sgîl y cymal iaith, statws isradd oedd gan y Gymraeg statws iaith estronol fel, dyweder, y Ffrangeg neu'r Bwyleg yn llysoedd Lloegr. Ond fe'u gorfodwyd gan ystyriaethau cyfiawnder naturipl a thegwch i lareiddio grym y cymal iaith. Gwnaethpwyd hynny trwy ganiatáu i ddiffynnydd neu dyst Cymraeg ei fynegi ei hun yn y Gymraeg pan fodlonid y llys na fedrai Saesneg. Serch hynny, disgresiwn ydoedd. Pwysleisiwyd yr elfen ddisgresiwn mor ddiweddar â 1967 gan y Barnwr Widgery yn achos Ynadon Merthyr Tudful a Neil Siencyn: I think it is quite clear that the proper language for court proceedings in Wales is the English language the language difficulties which arise in Wales can be dealt with by discretionary arrangements. through an interpreter, precisely in the same way as language difficulties at the Central Criminal Court are dealt with when the accused is a Pole. *Darlith a draddodwyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 20 Medi 1997