Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Lewis (Eos Glyn Wyre) (1836-1892) Llanrhystud* Pan oedd yn ifanc, y pwnc a sugnodd fryd John Lewis yn bennaf oll oedd cerddoriaeth. 'Roedd cael tad yn gerddor ac yn athro cerddoriaeth (Lewis Lewis, a elwid yn Lewis y Cantwr gan ei gyfeillion ar gyfri'r ffaith ei fod yn gerddor da a arferai gynnal ysgolion cân hyd a lled y gymdogaeth) o fantais iddo ac fe ddaeth ef ei hun yn gerddor da yn ei dro.2 Enillodd sawl gwobr am gyfansoddi, e.e., enillodd wobr am gyfansoddi tôn gynulleidfaol mewn eisteddfod yn Aberystwyth yn 1863.3 Hefyd, cyhoeddwyd tôn ganddo o'r enw 'Adgyfodiad' yng nghasgliad W. Harris, J. Jones, & J. Howell, Llyfr Canu Cynnulleidfaol, (Aberdâr, 1873).4 Cynorthwyodd ei frawd Dafydd gyda'i weithgareddau cerddorol, a bu ymdrechion y ddau ohonynt yn gyfrwng i ddenu llaweroedd i ddysgu cerddoriaeth.5 Wrth iddo ddilyn ei grefft fel teiliwr, aeth 'am ysbaid o amser i'r Cwmbach, ger Aberdâr, i weithio,'6 'er newid awyr a gweled tipyn.'7 Yno, daeth yn ffrindiau mawr â'r bardd Telynog, sef Thomas Evans,8 'gan fod y ddau yn Fedyddwyr.'9 Telynog oedd yr un a fu'n gyfrifol am ennyn ynddo fwy o ddiddordeb mewn barddoniaeth.10 'Roedd eisoes wedi dechrau ar y gelfyddyd hon,11 ond dechreuodd farddoni o ddifrif yn awr.12 Mabwysiadodd yr enw barddol Ioan ap Lewis, ond newidiodd yr enw i Eos Glyn Wyre.13 Dewisodd y diwethaf am mai gerbron afon Wyre, a red drwy bentref Llanrhystud, y bu'n chwarae fel plentyn, 'ac yn ei dyfroedd hi y cafodd ei fedyddio pan yn llanc ieuanc' (ar ôl enw barddol ei dad y cafodd y Parch. David Wyre Lewis, Rhos- *Nodyn: Mae llawysgrifau’r bardd John Lewis, ynghyd â rhai ei frawd, Dafydd Lewis y cerddor, wedi'u casglu'n gryno yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: NLW. Lewis of Llanrhystud, MSS. 8177A-8277A.