Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CLIII (644-647) 1998

Edward Jones a Francis Thompson

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Edward Jones a Francis Thompson
Bu bri mawr ar farddoniaeth Francis Thompson ym mlynyddoedd
cynnar y ganrif hon, ac ymserchodd nifer o Gymry yn ei
gyfansoddiadau. Gwyr y cyfarwydd mai mab i feddyg o Preston oedd
Thompson, a threuliodd gyfnod o wyth mlynedd mewn coleg
meddygol ym Manceinion. Methiant llwyr fu ei yrfa academaidd, fodd
bynnag, er mawr siom i'w dad, a symudodd i fyw i Lundain yn 1885
gan ymddieithrio fwyfwy oddi wrth ei deulu o Babyddion selog.
Ychydig o gyfathrach a fu rhyngddo a'i deulu wedi hyn, a dioddefodd
gryn galedi yn ennill ychydig geiniogau drwy werthu matsys a glanhau
esgidiau yn ninas Llundain. Llithrodd i dlodi enbyd, ac yn y man aeth
i afael y cyffur opiwm. Dichon y buasai wedi llwyr ddarfod amdano oni
bai i'r llenor a'r golygydd Wilfred Meynell, a oedd eisoes wedi cyhoeddi
rhai o'i gerddi yn ei fisolyn Merry England yn 1888, ganfod addewid
ynddo a'i gynorthwyo i ailafael yn ei fywyd. Treuliodd gyfnod wedyn
ym Mhriordy Storrington, ond 'roedd ei iechyd erbyn hynny wedi'i
lwyr ddifetha. Bu'n byw ger Mynachlog Pantasaph yng ngogledd
Cymru rhwng 1893 a 1897, a bu farw yn 1907.
Y berthynas rhwng dyn a Duw yw prif thema cerddi Thompson, ac
yn ei gerdd hir 'The Hound of Heaven' a gyhoeddwyd yn 1893 y gwelir
hyn amlycaf. Adroddir ynddi hynt a helynt yr enaid euog yn ffoi oddi
wrth Grist o'r naill noddfa i'r llall, ond pa le bynnag y cuddia'r bardd
fe'i canfyddir yn hwyr neu'n hwyrach pan glyw swn y traed sanctaidd
yn ei ymlid. Nid oes ganddo neb na dim i droi ato ond y Crist ei Hun,
ac yn ei freichiau Ef yn unig y ceir noddfa i'w enaid. Ys dywed R.
Moffat Gautrey yn This Tremendous Lover, cyfrol sy'n trafod bywyd a
gwaith Francis Thompson: 'All down the centuries, the soul in flight,
has sooner or later, awakened to the fact that the encounter with Deity,
which it most feared, and from which it fled, was an inevitable
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.