Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

interview. Postponed today, it must be experienced tomorrow. Evaded in Time, it must be realised in Eternity. To escape the searching quest of the gaze of God has become the primary instinct of every child of man'. Bu dyfynnu cyson ar 'The Hound of Heaven' 0 bulpudau Cymru yn ystod chwarter cynta'r ganrif hon. Cyhoeddodd J. J. Williams, Treforys, ymdriniaeth fanwl arni yn Y Dysgedydd ym mis Ebrill 1915, ac fe'i cyfìeithwyd i'r Gymraeg gan D. Tecwyn Evans a'i chyhoeddi wrth y teitl 'Bytheiad y Nef' yn YBeirniad, cylchgrawn John Morris-Jones, ym mis Hydref yr un flwyddyn. Gwnaeth y gerdd argraff fawr ar Amanwy, y bardd-lowr o'r Betws ger Rhydaman yntau. Medd ef yn ei golofn 'Cymry'r Dyffryn' yn The Amman Valley Chronicle ar 4 Tachwedd 1937: Dyma dymor y myfyr tawel fìn hwyr ger y tân. Nid oes hafal i lyfr da i ddiddanu dyn pan fo angof yn taenu clog ei lesmair dros hen ofìdiau. Darllenasom 'The Hound of Heaven', Francis Thompson, am y canfed tro yn ddiau neithiwr, a chael ein hysgwyd fel deilen ym mhalf y storm gan gerdd odidog y bardd claf. Eithr fel y sylwodd ei gofìanwyr, ychydig a wyddys am y cyfnod a dreuliodd Thompson fel crwydryn ymhlith digartref y ddinas, ac ni cheir dim gwybodaeth am y gwyr a'r gwragedd hynny y bu'n cyd-fyw â hwy mewn tlodi yn isfyd Llundain. 'Of the men he met at common lodging-houses, or in whose company he met in archways, or with whom he entered into partnership in the business of fetching cabs or selling matches, he names but very few,' medd Everard Meynell yn ei Life of Francis Thompson. Ond gwyddys i Thompson ddod i gysylltiad agos â Chymro Cymraeg o Forgannwg yn ystod cyfnod ei ddarostyngiad, er nad oes gan yr un o'i gofìanwyr, swyddogol nac answyddogol fel ei gilydd, air o gwbl i'w ddweud am y cyfeillgarwch. D. R. Hughes, gẃr a dreuliodd flynyddoedd lawer yn Llundain, oedd y cyntaf i grybwyll y cysylltiadau hyn, a hynny mewn llythyr o'i eiddo a gyhoeddwyd yn T.P.s & Cassell's Weekly ar 28 Chwefror 1925. Dywed Hughes mai ar ei wely angau yn Ysbyty Southwark yr oedd y Cymro, gẃr o'r enw Edward Jones, pan gyfarfu ag ef. Ymhellach: It was in his last conversation, I think, that he told me of his connexion with Francis Thompson, and of how they addressed envelopes together at a few coppers per thousand and sold matches near Charing Cross Station Ymddengys i D. R. Hughes anfon fersiwn Cymraeg o'i lythyr i'r Cymru (Coch) hefyd, a hynny yn ystod gwanwyn 1925, ac er iddo ddiolch