Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amdano yn ei golofn At y Gohebwyr' yn rhifyn mis Mai, a chydnabod mai 'rhyfedd ydyw'r hanesyn am gysylltiad Edward Jones â Francis Thompson', nid ymddengys i Ifan ab Owen Edwards, golygydd Cymru ar y pryd, gyhoeddi'r llythyr yn ei gylchgrawn. Ac ni chafwyd gair am Edward Jones wedyn tan fis Ionawr 1934 pan apeliodd un o ohebwyr y Western Mail am fanylion amdano. Cyhoeddwyd nifer o lythyrau yn y newyddiadur yn ymateb i'r cais hwn, a thrwy dafoli'r dystiolaeth a geir yn y llythyrau hyn gallwn olrhain peth o hynt a helynt bywyd cythryblus Edward Jones. A'r llythyrau hyn, mae'n debyg, fu'n sail i ymdriniaeth lawnach gan D. R. Hughes ar Edward Jones yn ei gyfrol hunangofiannol Yma ac Acw, a gyhoeddwyd yn 1944. Yn ôl J. R. Jones o Ben-y-bont-ar-Ogwr, y cyhoeddwyd ei lythyr yn y Western Mail ar 12 Ionawr 1934, ganwyd Edward Jones mewn tafarn ym Maesteg tua 1850, ac ar un adeg bwriadodd fynd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr, ond fe'i gwrthodwyd ar sail ei anuniongrededd. Bu wedyn yn cadw ysgolion yn Abergwynfi a Dolgellau. Tystiodd y Parchedig T. Llynfì Davies, Abertawe, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar 22 Ionawr 1934 fod Edward Jones yn gefnder i'w fam: 'My mother spoke of Edward Jones's parents as Newyrth Richard and Modryb Siân,' meddai. Mae modd cadarnhau'r ffeithiau hyn yng nghyfrifiad poblogaeth 1861 lle dangosir fod Richard Jones, brodor o blwyf Llangynwyd a gwr 39 oed, a Johan (Siwan), ei briod 36 oed, yn cadw'r 'Maesteg Inn' yn Stryd Bethania ym Maesteg. Yno hefyd ar noson y cyfrifiad, yr oedd Edward Jones, crwt 11 oed, a'i chwaer Rachel, a oedd yn llwydd oed. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghyfraniad y Parchedig W Rhys Watkin a gyhoeddwyd yng ngholofnau'r Western Mail ar 10 Ionawr 1934. Bu ef yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Maesteg rhwng 1900 a 1910, ac adwaenai deulu Edward Jones yn dda. Dywaid mai yn eglwys Bethania, Maesteg, y codwyd Jones i bregethu a hynny dan weinidogaeth y Parchedig Richard Hughes. Fe'i haddysgwyd yng ngholegau'r enwad yng Nghymru ac yn Lloegr, ac wedyn yn un o brifysgolion yr Almaen. 'Daeth yn ôl â syniadau newydd y wlad honno yn corddi yn ei ben' medd W. R. Watkin. 'Mynnai eu mynegi, eithr nid derbyniol gan ei enwad mohonynt ond dichon bod ffaeledd arall yn anghymeradwyaeth iddo hefyd'. Gellir cadarnhau'r ffeithiau hyn unwaith yn rhagor. Dengys adroddiad blynyddol pwyllgor Coleg y Bedyddwyr ym Mhont-y-pwl, i Edward Jones gofrestru fel myfyriwr yno ym 1869, ac yntau'n llanc pedair ar bymtheg oed. Ymhlith ei gyd- efrydwyr yno yr oedd William Edwards, Login (y Prifathro William Edwards, wedyn), Enos George, Thomas Thomas, ac Andrew Mills.