Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dylanwadau Detholus? Diddorol oedd darllen yn rhifyn Ionawr 1998 o'r Traethodydd ysgrif Morfudd Strange ar gerddi Cristnogol Gwilym R. Jones, ac fel troednodyn i'w sylwadau y bwriedir y geiriau hyn. Er nad ei hamcan oedd ymdrin â'r dylanwadau llenyddol ar y bardd, 'Yr Oeddym Ni Yno', un o'r cerddi mwyaf cofiadwy a gyfansoddodd sy'n ymddangos yn Cerddi Gwilym R. (Y Bala, d.d.), yw ei man cychwyn, a dyfynna'n o helaeth o bwt o erthygl, 'Dyma fel y daeth a gyhoeddodd ei hawdur yn Y Faner (13 Ebrill 1979) lle'r eglura darddiad y gerdd. Yno fe gyfeiria ef at ddarllen nofelau Dostoeffsci a chrybwyllan benodol Y Brodyr Karamasoff a Trosedd a Chosb. Dywed hefyd yn yr un erthygl: Y mae anghenfìlod go erchyll yn llechu yn isymwybod pob un ohonom a byddant yn dangos eu dannedd weithiau mewn gweithredoedd sy'n annheilwng iawn o'r safonau yr honnwn ein bod yn eu coleddu Dyna, mae'n sicr, darddiad syniadol y gerdd a DostoefTsci biau hwnnw. Cyfeiria hefyd at '[d]dylanwad arall' y tu ôl i'r gerdd: sef dylanwad clywed droeon linellau cân werin y bobl groenddu a ofynnodd y cwestiwn 'Were you there when they crucified my Lord?' Bu'r 'Were you there ?' yn hunllef yn rhywle yn fy isymwybod byth er pan glywais y gân gyntaf, a rhaid oedd ateb y cwestiwn. Felly, ymgais i ateb cwestiwn y negro yn gadarnhaol yw 'Yr oeddym ni yno'. Fe awgrymwn i fod y cyfeiriad at y gân werin yn reit ddadlennol, ond bod testun arall o'r traddodiad llafar wedi bod yn fwy amlwg ddylan- wadol na hi. Trafodir y gân a ganlyn gan Ruth Finnegan yn ei hastudiaeth