Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barwn a Gwas Os edrychir yng Ngeiriadur yr Academi dan y gair Saesneg vassal fe welir ei fod yn rhoi: 1. Hist: deiliad (deiliaid, deiliadon) m, gẃr (gwyr) m; great-, prif ddeiliad (-ddeiliaid), prif wr (-wŷr); rear-, isddeiliad (isddeiliaid) m; Poi. -state, gwladwriaeth gaeth (gwladwriaethau caeth) f (of sth, i rth). 2. Pej: gwas, taeog(-ion) m. Gellir siecio Geiriadur yr Academi drwy ymgynghori â Geiriadur Prifysgol Cymru lIe gwelir ymhlith ystyron deiliad, y Saesneg vassal; ymhlith ystyron deiliadaeth, y Saesneg vassalage; ymhlith ystyron gŵr, y Saesneg vassal gyda'r Gymraeg 'deiliad dan wrogaeth i arglwydd neu frenin'. Gwelir ymhellach mai un o ystyron gwra yw 'talu gwrogaeth, ymostwng neu fod yn wr neu ddeiliad (i): to do homage, become the vassal (of)'. Mae ystyron gwrogaeth yn yr un geiriadur yn ein cyflwyno i gymhleth o ystyron y mae'n rhaid eu dosbarthu fel rhai diweddar ac fel rhai canoloesol ('cydnabyddiaeth gyhoeddus o deyrngarwch (gWr i'w arglwydd, &c.) ac ymrwymiad i'w wasanaeth, ufudd-dod gẃr i arglwydd, llw o ffyddlondeb a theyrngarwch i awdurdod uwch; ymostyngiad, ymddarostyngiad; ffìwdaliaeth'. Mae'r gair olaf ffiwdaliaeth yn ein hatgoffa o gyfundrefn wleidyddol yr ydym yn fwy cyfarwydd â hi efallai wrth drafod hanes gwledydd eraill Ewrop nag wrth drafod hanes Cymru er na ellir ei hosgoi yn yr achos hwnnw chwaith. Yn sicr yr oedd gwreiddiau ffìwdaliaeth i'w cael yn hen gyfundrefn wleidyddol Cymru fel y down yn ymwybodol wrth drafod hen ystyron y geiriau Cymraeg arddellarddelw, arddelaflarddelwaf ac yn arbennig yr ymadrodd ar arddelw 'under the care or warranty of'. Yn wir, yr wyfyn rhyw deimlo y talai i mi neu i rywun arall fynd i'r afael ag ystyron gwreiddiol y ddau air hyn a'r gair Cymraeg Canol cynnelw, dan gredu fod hynny'n bwysig o ran ein hanes. Ond nid y rhain sydd dan fy sylw'n awr ond dau air arall y mae hanes datblygiad eu hystyron yn taflu goleuni ar ein hanes