Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond darllenodd hefyd, a hynnyn dra manwl, y llu gweithiau eilradd a sgrifennwyd ar y cyfnod (y mae astudio ei lyfryddiaeth yn foddion addysg ynddo'i hun), fel bod ei drafodaeth bob amser nid yn unig yn hynod wybodus ond hefyd yn cael ei gosod mewn cyd-destun eang iawn. At hyn oll fe sgrifennwyd y llyfr mewn arddull eglur, fywiog a chynnes, fel nad yw ei ddarllen yn dreth o gwbl ar amynedd y darllen- ydd: i'r gwrthwyneb, y mae'n brofiad pleserus i'r eithaf. Mewn cyfrol o faint hon, ni all na bo mân lithriadau yma ac acw, ond gallaf ddweud yn onest na sylwais ar yr un llithriad y talai cymaint â'i grybwyll mewn adolygiad fel hwn. Tebyg mai'r unig ffordd bellach yr helaethir yn sylweddol y darlun a dynnir yn y gyfrol fydd trwy ymgymryd â rhagor o astudiaethau lleol, yn ôl awgrym yr awdur ei hun (t.289). Ond prin iawn y bydd y gweithgarwch hwnnw, hyd yn oed, yn gwneud mwy nag ychwanegu ambell fanylyn yma a thraw at y stori a lunnir ac a adroddir mor gadarn a chelfydd yma. Tybed a oes gobaith y gall Gwasg Prifysgol Cymru (sydd i'w chanmol yn fawr am ddiwyg a gwneuthuriad y gyfrol) drefnu fod fersiwn Cymraeg ohoni'n cael ei baratoi, fel y gwnaed eisoes â chlasur cynharach Syr Glanmor, The Welsh Church from Conquest to Reformation? R. GERAINT GRUFFYDD. HYWEL TEIFI EDWARDS (gol.), Cwm Cynon (Llandysul: Gwasg Gomer, 1997) tt. 381, ynghyd â 53 llun; pris £ 14.95. Y mae cymaint i'w ddweud o blaid, ag yn erbyn, cwlwm o ysgrifau amrywiol eu pwnc a'u hawduraeth ynghylch bro arbennig. Cynigia amrywiaeth defnyddiau sy'n debyg o fod wrth ddant rhywun, os nad pawb, o'r fro honno, neu'n ym- ddiddori yn ei hanes. Ar y llaw arall, gall fod yn rhibidres o ysgrifeniadau digyswllt, yn taflu ar y darllenydd y dasg o'u clymu ynghyd 'orau y medr. Y mae yn y gyfrol hon fesur o'r ddwy elfen hon. Yn wahanol, dyweder, i Gwm Rhondda, 'Rhyw gasgliad o gymun- edau oedd Cwm Cynon ar y gorau ac felly y deil o hyd' (19, dyfyniad o ysgrif atgofus R. Wallis Evans). Yn wir, ym marn brodor ifanc o'r parthau hyn, nid yw Cwm Cynon yn fwy na therm gweinyddol diweddar, heb fod iddo hunaniaeth sicr. Fel canlyniad, y mae'r dasg o ddifrinio'r tir yn ddaearyddol a chymunedol yn hanfodol, heb sôn am y dasg o olrhain hanes a thwf y gymdeithas trwy a chyda threigl amser. Trueni na wnaethpwyd hyn yn effeithiol yn yr achos hwn. Ceir peth o'r cefndir yn ysgrif wych Christine James ar y gerdd hynafol 'Coed Glyn Cynon', a chlywn am y datblygiadau diwydiannol diwedd- arach ar gychwyn ysgrif Gareth Williams ar Gôr Caradog, ymhell i berfeddion y gyfrol. Serch hynny, deil yn anodd i'r darllenydd anghyfarwydd weld yn hollol beth sydd yma. Dweud yr wyf, felly, fod