Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYRON EVANS, O'r Cysgodion, (Gwasg Gomer), t.152. £ 5.50. Llyfr yn disgrifio cyflwr un yn dioddef oddi wrth alcoholiaeth, un â dawn eithriadol ganddo i drin geiriau, yw'r gyfrol hon, llyfr cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, mae'n bur debyg. Gan mai pregethwr a gweinidog yw'r awdur, yn adrodd ei brofiad ei hun, mae'r llyfr yn fwy anarferol fyth; nid na wyddom i lawer un mewn swydd gyffelyb gael profiad tebyg, ond ceisio ei gelu fyddai'r arfer. Yn ein cyfnod ôl- Freudaidd ni daeth yn ffasiynol i arllwys y cwbl o'n problemau mewn gobaith o gael iachâd meddyliol i'r hunan, ond bu'r awdur yn hynod o ffodus, fel y mae'n cyfaddef yn rhwydd, i gael cymorth a chyd- ymdeimiad nid yn unig ei wraig a'i blant ond hefyd ei ddwy eglwys; efallai fod hynny wedi bod yn haws gan eu bod yn Llundain, ac nid yng nghefn gwlad Cymru. Disgrifia'r awdur ei gyflwr yn fanwl ac onest, gan ddangos sut yr arweiniwyd ef o dan ddylanwad y ddiod i dor-cyfraith, a'i ddedfrydu i gyfnod yng ngharchar Wandsworth; mae ei ddisgrifiad o'i brofiad yno yn ddogfen o bwys. Unwaith eto ym- welwyd ag ef yn ffyddlon gan ei deulu a swyddogion ei eglwysi, a thrwyddynt hwy trefnwyd iddo gael triniaeth yng nghanolfan St. Joseph, a chawn gipolwg ar y math o driniaeth a gafodd yno. Ond er tristwch i'r darllenwr, a chymaint mwy i'w deulu a'i ffrindiau, syrthio yn ôl fu ei hanes drachefn, ac eto ni phallodd cydymdeimiad teulu a phraidd, a chawn ddisgrifiad o driniaeth lymach yn hen gartref Galsworthy, a gorffennir y llyfr gydag ef yn ail-afael yn ei ddyletswyddau, yn ymwybodol y byddai'n rhaid iddo ymladd ei elyn bob dydd o'i fywyd, weddill ei oes. Ceir yn y gyfrol hon lawer o wybodaeth yn Gymraeg am natur problem y ddiod, ceir prawf o allu eithriadol y dioddefwr ei hun i fynegi ei deimladau, ond i mi prif arwyr y gyfrol yw ei deulu a'i eglwysi am eu rhyfedd amynedd a gras tuag ato. MARIAN HENRY JONES EIRWEN GWYNN, Dim Ond Un (Gwasg Gomer, 1997), 254tt. £ 7.95. Nofel am y dyfodol yw hon yn ymwneud â digwyddiadau yng Nghymru dipyn ymlaen yn y ganrif wedi'r Milflwyddiant, yn syrthio felly i ddosbarth 'science fiction', ac er nad oes yma ymosodiadau o'r gofod, byd digon anghynnes a ddarlunnir yma, a da gennyf wybod na fyddaf fì yma yn rhan ohono! Cawsom ein rhybuddio'n ami gan Eirwen Gwynn, y gwyddonydd, am beryglon anwybyddu neu ymyrryd â deddfau natur, a gwelir yn ei nofel rhai o'r rhybuddion yn cael eu gwireddu. Ceir cyfeiriadau at y newid yn y tywydd a'r tymhorau wrth i'r byd gynhesu; disodlwyd llyfrau gan ddisgiau, erys AIDS yn bla heb feddyginiaeth effeithiol, disodlwyd petrol gan hydrogen i yrru ceir a throi olwynion diwyd-