Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chwaer, meddyg prysur, neu gefnder sydd wedi cadw at yr hen ddull o ffermio, yn aflwyddiannus, a chyfaill, Derec, darlithydd ym Mangor, sydd yn llanw'r pwrpas yn y nofel o wrando ar ddadleuon diddiwedd Steffan ag ef ei hun, ac yn y man yn llanw i mewn ffeithiau am yr hanes i Sunil yr ŵyr, ond nid yw Derec yn datblygu'n gymeriad byw ynddo'i hun. Prin hefyd fod Steffan, er ennyn rhywfaint o gydymdeimiad y darllenydd, yn gwbl gredadwy. Ni fedraf gredu na fyddai wedi ffraeo'n dân gwyllt â'i wraig rywdro, ac yntau'n teimlo mor gryf iddi ei esgeuluso ef a'r plant, ac yn y diwedd bod yn anffyddlon iddo. Amdani hi, Meleri, nid wyf yn siwr a ydym ninnau i'w hedmygu heb ei beirniadu. Ar un olwg hi yw'r ymgnawdoliad o ffeministiaeth fuddugol, yn aelod yn Senedd Cymru (nid Cynulliad bellach) yng Nghaerdydd, ond hefyd dros Gymru yn Ewrop, gyda diddordeb arbennig dros les y gwledydd lleiafrifol, ac yn gwneud ei gwaith yno gydag arddeliad. Os bu'n wraig a mam ddelfrydol tra oedd y plant yn fach, ychydig o sylw a roddodd iddynt wedi sylweddoli bod ganddi'r hawl i ddilyn ei gyrfa ei hun. Prin y gallaf gredu ynddi a diflas yw gweld cyn lleied o les a ddaeth i Gymru yn sgîl cael ei Senedd lawn a chynrych- iolaeth yn Ewrop. Yn sicr y mae hon yn nofel sy'n peri inni feddwl. Y mae'r llyfr drwyddo wedi ei sgrifennu mewn Cymraeg ystwyth, ac y mae'r disgrifiadau o'r wlad o gwmpas y Bala ac ar hyd yr arfordir ir Gogledd, yn awgrymu nid yn unig wybodaeth o'r ardal ond anwyl- deb tuag ati. Dengys ambell gyfeiriad llenyddol mor hyddysg yw'r gwyddonydd hon yn ei heti- feddiaeth farddonol. Myn ambell gymhariaeth o fyd natur aros yn y cof, (e.e., 'crynu fel cyw mewn dwrn') gan beri rhyddhad fod ambell beth yn goroesi hyd yn oed yn y Gymru drist, hagr y mae'n bortreadu. Erys y teitl 'Dim Ond Un' â llawer ystyr ymhlyg ynddo. Ar y tudalen blaen dyfynna'r awdur 'Un yw y byd yn y bôn', ac ar gefn y clawr ceir 'Dim ond un cyfle sydd i gynhyrfu dyfroedd y llyn'. Y mae'r ddwy thema wedi eu cyd-wau yn y nofel hon i wneud llyfr darllenadwy a bair i ni ystyried a oes rhywbeth y gellir ei wneud yn awr i osgoi gwireddu'r portread hwn o ddyfodol ein gwlad. MARIAN HENRY JONES. GERAINT H. JENKINS (gol.), Y Gymraegyn ei Disgleirdeb: yr iaith Gymraeg cyn y Chwyldro Diwydiannol. (tt. 450. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1997. £ 14.95). Y mae cynllun ymchwil y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar Hanes Cymdeithasol yr laith Gymraeg wedi bod ar y gweill ers rhai blynyddoedd a blaenffrwyth gweithgareddau yr Athro Geraint Jenkins a'i gydweithwyr yw'r gyfrol hon. Testun y gyfrol yw hynt a helynt ein hiaith ar bob lefel, o'r cofnod ysgrifenedig cynharaf yn