Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Roedd hi fel ffair neu ryw ddwyfol ffars cilwen, rheg, clownio rhwth nes blino ar sbort y cortyn. I mewn i'w tai aeth y minteioedd. Ac yng nghynhesrwydd y bru mae holl deulu dyn ar wahân i'r gwywedig rai sy'n gyrff di-hosan, gwag (hyd byth yn anghyfannedd) yn bwrw nos ar grocbren hir. Maent yn hongian ym mhaent ein hangau yn unsain gorws anunionsyth: rhes od o grosiedau, eneidiau ar lun hen nodiant nodau agoriadol a thaer ar gyfer organ Lwtheraidd neu, heb yr alaw, bar olaf cân o aeafol foliant. Ai diwedd gweddi neu gyd-ddigwyddiad yw naid y wybr uwch y dibyn? DEWI STEPHEN JONES Cerddi CROCBREN