Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DR ERNEST JONES 1879 1958 (Priododd Morfydd Llwyn Owen, 1892-1918, y gerddores athrylithgar yn 1917) Cymro o seiciatrydd oedd efô ac yn ei ddydd, mewn newydd faes, yn ben; wfftiai y gred yn Nuw a'i gyrru ar ffo ac ar y Gair ni pheidiai â bwrw sen. Priododd ferch na bu ei thlysach 'rioed- y Forfydd gerddgar, lartsh o'r cymoedd prudd, a buan iawn y'i galwodd at ei choed o'i gweld mor driw Sul, gwyl a gwaith i'r Ffydd. Bellach, ymroes heb ball i'w llwyr-ryddhau o holl hualau ei magwraeth ffôl, ond methodd ddifa'r hyn a dybiai'n gau cans llithrai hi i'r seiat yn ei hôl. Ni wyddai'r seiciatrydd mawr am gri a blannwyd ynom am Un mwy na ni. JOHN EDWARD WILLIAMS