Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol YPerygl i Gyhoeddi Llyfrau Ysgolheigaidd yn Gymraeg Fe wêl y darllenydd fy mod yn cyhoeddi'r dilyniant a wnaeth Mr Dafydd Glyn Jones i'r llith a gyhoeddwyd yn Rhifyn Ebrill YTraethodydd 1998. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am wneud hynny. Mae'n hysbys i bob Cymro a fu'n gweithio yn unrhyw adran o golegau Prifysgol Cymru yn yr hanner canrif sy'n dirwyn i ben mai cais i lesteirio sefydlu coleg Cymraeg oddi mewn i Brifysgol Cymru oedd y cynllun i benodi darlithwyr drwy gyfrwng y Gymraeg mewn adrannau gwahanol, ac ysywaeth y mae'r un mor hysbys na ddaeth nemor ddim o'r cynllun hwnnw, oherwydd yr hyn a wnaeth yr adrannau a fanteisiodd arno, oedd achub ar y cyfle i chwanegu aelod at y staff heb drafferthu llawer ei fod yn darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, esgus dros chwanegu aelod arall at y staff fu'r cynllun gan amlaf: yn un achos penodwyd aelod i ddarlithio drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod ganddo ddim Cymraeg, heb gael ganddo ddim ond addewid nas cywirwyd, i ddysgu Cymraeg. Yn y cyfamser dyrchafwyd colegau politechnig yn brifysgolion a bellach nid Prifysgol Cymru yw'r unig brifysgol yng Nghymru ac yn awr y mae Prifysgol Cymru'n debycach i bum prifysgol nag i un, tyst o enwau'r pum coleg, Prifysgol Cymru Abertawe, Prifysgol Cymru Aberystwyth, a.y.y.b. Ac y mae'r pum coleg hynny'n ceisio diddymu fframwaith yr hen brifysgol ac yn crafangu iddynt eu hunain unrhyw awdurdod ac unrhyw adnoddau sydd ar ôl iddi. O ganlyniad, mae'r 'gwasanaethau canolog', fel y'u gelwir, dan fygythiad cynyddol. Un o'r rheini yw Gwasg Prifysgol Cymru. Achubwyd honno dros dro ar y ddealltwriaeth ei bod yn talu ei ffordd ei hun ac yn gwasanaethu fel cyfrwng i gyhoeddi gweithiau aelodau o stafflau'r pum coleg. Gan fod y colegau hynny'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu eu gweisg eu hunain, fe welir pam y dywedaf mai dros dro yr achubwyd y Wasg; mae'n dal dan fygythiad.