Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coleg Ffedral Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Papur ar gyfer cyfarfod Bwrdd Dysgu trwýr Gymraeg y Brifysgol, 23 Ebrill 1998 1. Y CYNNIG A'R CEFNDIR 1.1 Pan ofynnir y cwestiwn: 'Ar ba brifysgolion yn y byd y mae rhwymedigaeth, dyletswydd neu resymol ddisgwyliad i ddysgu eu pynciau trwy'r Gymraeg?' ni ellir enwi ond dwy: Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru. Mae a wnelo'r papur hwn yn llwyr â'r ail. 1.2 Ar ddiwedd y gynhadledd Y GYMRAEG 16+ Y FFORDD YMLAEN, a gynhaliwyd ym Mangor 23 Ionawr 1998, pasiwyd y cynnig hwn yn unfrydol, wedi ei lunio gennyf i a'i gynnig gan y Dr. Geraint Wyn Jones: Fod y Gynhadledd hon yn gofyn i Fwrdd Dysgu trwy'r Gymraeg Prifysgol Cymru, drwy ymgynghoriad â'r Gyfadran Astudiaethau trwy'r Gymraeg yn Aberystwyth, â'r Ysgol Astudiaethau trwy'r Gymraeg ym Mangor, ac ag unigolion yn holl Golegau Prifysgol Cymru, lunio cynllun ar gyfer Coleg Cymraeg ffederal o fewn y Brifysgol ffederal, i'w gyflwyno i Gyngor a Llys y Brifysgol. Mae'n debyg y bydd aelòdau'r Bwrdd hefyd wedi gweld y papur PROBLEM PRIFYSGOL, a gyflwynais i esbonio cefndir y cynnig. Bellach y mae'r papur wedi ei gyhoeddi'n gyfan yn Y Traethodydd, Ebrill 1998. Bu peth trafodaeth gyhoeddus hefyd yn y cyfamser. 1.3 I'n hatgoffa'n hunain yn fyr iawn. Ym 1951 y pasiodd Llys y Brifysgol, ar gynnig y Dr. Gwynfor Evans, y dylid archwilio ffyrdd o sefydlu Coleg Cymraeg. Aeth saith mlynedd heibio cyn y gwnaed y penodiad cyntaf wedi ei ddynodi ar gyfer DTG. O hynny hyd ganol yr wyth-degau, gwnaed rhyw un penodiad yma a rhyw un acw, gan gynyddu'r nifer yn araf a phetrus iawn. Faint o ddarlithwyr sydd yn y