Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Salesbury. Pobl ddwad oedd ei deulu, ryw dro, a daethant yn Gymry gwiw. Dyma enw a ddylai blesio pawb sy'n ffafrio 'gwladgarwch dinasyddol' yn fwy na 'gwladgarwch ethnig': mae ei fywyd a'i waith yn hysbyseb i allu'r diwylliant Cymraeg i ddenu pobl ato a'u derbyn i mewn. Salesbury oedd seren fore'r Dadeni Dysg yng Nghymru, a'r dydd y byddwn wedi gwireddu'r rhaglen a amlinellodd ef yn 1547, byddwn wedi cyrraedd i rywle. Hanfodion y rhaglen honno oedd: dwyn gorau'r byd i Gymru, dwyn gorau Cymru i sylw'r byd, a harneisio'r dechnoleg ddiweddaraf (argraffu, bryd hynny) i wasanaeth y Gymraeg. Rhoddai teitl ei lyfr cyntaf arwyddair addas i'r Coleg: Holl Synnwyr Pen Cymro i Gyd; ond nid llai addas ei anogaeth yn rhagymadrodd y llyfr hwnnw: Mynnwch Ddysgyn ych laith. 8.2 Byddai 'Coleg William Salesbury yn enw priodol ar goleg ffederal Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru. Ond ni ddylid gwastraffu enw fel hwn ar ddim byd tila. Hyd yn hyn, byddai 'Sioe Bin', 'Dad's Army' neu 'Syrcas Fred Karno' yn enw mwy addas arnom ni a'n hymdrechion. Sicrhaer y ddau gant i ddechrau. DAFYDD GLYN Bangor