Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A dyma oedd palas ein T'wysog Llewelyn, Llyw olaf y Cymry, hen elyn i drais (HU ERYRI, Glan Traeth Wylofain; dyfyniad O. M. Edwards yn Cymru'r Beirdd, 1893) Yr un modd y dywed brodor arall o Aber, Llewelyn Hughes o Dremynfa House, yn ei draethawd heb ei gyhoeddi, Hanes Abergwyngregyn, Hydref, 1894: A dyma Aber Garth, lle'r oedd Llys y Tywysogion wedi ei godi ar droed dde Maes y Gaer, neu'r trwyn o dir sy'n ymestyn i wastatir y dyffryn hwn. Dyma safle Llys y Tywysogion yn Aber Garth Celyn. Enw'r lIe ar lafar gwlad yw Pen y Bryn, ond yr enw ar Llyfrau Rhent y plwyf yw Bryn Llewelyn. Diddorol yw sylwi nad yw'r awdur, er mor graff a gofalus yw fel hanesydd, yn cymryd y cam olaf ac uniaethu Garth Celyn â Phen-y- Bryn, er mai dyna efallai oedd ei fwriad. Ond mae fel petai'n awgrymu bod Aber Garth Celyn yn enw hyn ar y plwyf nag Abergwyngregyn, enw Leland arno (ynghyd â Llan Bodfan) yn 1540. Erbyn hynny, 'roedd y llys yn adfail: 'Tussog Lluelin had a castel or palace whereof yet part stondith.' 'Roedd y Saeson, ar ôl 'Yspeilio y Palas', chwedl Hu Eryri, a'i adael i chwalu, wedi gadael i'r hen enw hefyd fynd yn angof; 'Aber' yn unig a ddefnyddir mewn dogfennau swyddogol ar ôl y Goresgyniad, yn gyson â pholisi cyffredinol y Goron o fwrw gweddillion yr hen drefn i ebargofiant. Ond wedi i'r faenol gael ei throsglwyddo i deulu Rhys Thomas yn 1553, er i'r Thomasiaid gyfeirio'u llythyrau'n gwta o 'Aber', nid oedd yr hen enw wedi marw o'r tir ac fe gawn ddogfennau un ohonynt, yn 1646, yn cyfeirio at 'Aber Garth Celyn'.5 Erbyn 1778 enw hynafiaethydd ydyw: 'ABERGARTH CELYN is Aber village and church in Caernarvonshire', meddai Lewis Morris yn Celtic Remains, gyda chroesgyfeiriad at Garth Celyn fel 'the place where Prince Llewelyn ap Gruffyth dated his letter to the Archbishop of Canterbury in defence of his proceedings against the English who oppressed his people.'6 Yn y ganrif hon, 'roedd ysgolheigion enwog Bangor yn tueddu i dderbyn y traddodiad. Cyfeiriodd Syr John Lloyd yn braf at 'the royal residence on the shores of the Menai' (1927), ac yn ei erthygl feistrolgar ar 'Abergwyngregyn' (T.C.H.S., 1963, t.38) sgrifennodd yr hanesydd gofalus T. Jones Pierce: Although the actual site of [y] tŷ hir cannot now be precisely located, this ancient seat of the princes of Gwynedd was probably situated on or near the elevated site now occupied by the house known as Pen-Bryn.