Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Edessa Mae'n rhyfedd fel y bydd rhai pethau'n dal ein sylw, a hynny'n ami iawn cyn, neu heb, inni'u hystyried na'u hastudio'n fanwl, ac yn wir heb fod gennym wybodaeth arbennig yn y maes. Pan oeddwn yn blentyn ac yn f'arddegau cynnar, fe'm trawyd gan y syniad syniad sydd wedi dal gennyf ar hyd y blynyddoedd nad yw'r gair 'Jwdea' yn ffitio'n gymwys a chywir yng nghyd-destun Actau, 2, 5-11: Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem, Iddewon, gwyr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Wele, onid Galileaid yw'r rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. Dyna gyfieithiad William Morgan, wrth gwrs. 'Rydym bawb yn gyfarwydd â'r adnodau hyn, wedi'u darllen droeon a throeon, ac wedi'u clywed yn cael eu darllen o leiaf yn flynyddol yn ein capeli à n heglwysi. Pan fo seren yn rhagori, Fe fydd pawb â'i olwg arni; Pan ddêl unwaith gwmwl drosti, Ni fydd mwy o sôn amdani. (Hen Benillion gol. T. H. Parry-Williams).