Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a Christ hefyd, ac fe glywsom aml gyfeiriad at 'Prophet Abraham and Prophet Jesus'. Mae'n debyg fod yna nifer o ffynhonnau o gwmpas yr ardal, rhai ohonynt wedi bod yn enwog ganrifoedd yn ôl oblegid y gred fod y dwr yn abl i wella afiechydon. Nid syndod, felly, yw deall bod baddon yn gysylltiedig â rhai o'r eglwysi a'u hysbytai yn yr hen amser. Llifa dwr un ffynnon sydd wrth odre'r bryn i lyn arbennig yng nghanol y ddinas, heddiw fel cynt, ac fe gysylltir Abraham â'r llyn hwn. Ceir haid rhyfedd o bysgod aur yn y llyn pysgod Abraham'; ni chaniateir eu dal, ac fe'u cyfrifìd yn 'sanctaidd'. Yn yr amser gynt fe safai'r Eglwys Gadeiriol yn union i'r gorllewin o'r llyn hwn, ac un o balasau'r brenhinoedd ar yr ymyl ogleddol. Heddiw nid oes sôn amdanynt. O gwmpas y llyn yn awr y mae cyntedd colofnog prydferth; saif mosc (a gysegrwyd i Abraham) lle'r oedd yr Eglwys Gadeiriol gynt, ac ysgol hardd ar seiliau'r palas. Ar wahân i'r llyn, nid oes unpeth y gellir ei gysylltu â'r cyfnod hwnnw yn y gorffennol pan oedd Edessa yn ddinas o fri ac enwogrwydd; nid oes yno'r un adfail i dystio i'r gwychder a fu. Ys dywed Isgarn am Fabilon: 'Bu'n ferw braf, bu'n fawr ei bri'. Felly hefyd Edessa. Ond erbyn heddiw aeth y cyfan i ebargofiant. Erys yn dref boblog; tebyg iawn fod nifer sylweddol os nad y mwyafrif o'r boblogaeth bresennol yn ddisgynyddion y rhai a fu yng nghanol y berw a'r bri, ond yn ôl a ddywedwyd wrthym nid oes, heddiw, ymwybyddiaeth na chonsyrn am a fu. DEWI M. LEWIS Caerdydd