Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawfeddygaeth Esgyrn Cymry Lerpwl Bu Lerpwl ers talwm yn enwog fel Canolfan Lawfeddygaeth Esgyrn. Enillodd ei henw da trwy'r holl fyd yn bennaf trwy ddau unigolyn, ac yn wir, trwy deulu o feddygon-esgyrn a oedd yn hanfod o Ynys Môn. Cyn amser y ddau hyn, sef Hugh Owen Thomas a Robert Jones, yn enwedig Robert Jones, cyflawnid llawfeddygaeth esgyrn gan y llawfeddyg cyffredinol, a hynny'n aml heb lawer iawn o lwyddiant, 'Roedd eu triniaethau yn amrwd a'u gwaith sblint yn annigonol. Gan mai mewn wardiau heb eu diheintio mewn ysbytai cyffredinol y trinnid hwy, yr oedd llawer o'r cleifion dan orfod i ddygymod â thrychineb torri ymaith aelod heb fawr o les iddynt yn sgîl hynny. Ond daeth doniau disglair fel gosodwyr-esgyrn i'r amlwg mewn teulu ym Môn. Teulu'r Thomasiaid oedd hwnnw. Cerddodd Evan Thomas, un o'r brodyr o Fôn i Lerpwl yn 1830 i chwilio am fywoliaeth lawn amser ymhlith docwyr Lerpwl. Mewn ychydig o fisoedd llwyddodd Evan Thomas i sefydlu cryn fusnes yn eu plith hwy ac ymhlith mewnfudwyr Gwyddelig yn ardal Vauxhall. Daeth bri mawr ar ei feddygfa yn Stryd Crosshall ac aeth ei enw da gymaint ar led nes y dechreuodd y meddygon trwyddedig deimlo'n ddig wrtho oherwydd ei enwogrwydd a'i lwyddiant. Cefnodd llawer o'r cleifion ar eu meddygon arferol a throi at y llawfeddyg esgyrn Cymraeg. Bu farw un o gleifion Evan Thomas a pherswadiwyd ei berthnasau i ddwyn achos yn erbyn 'y crach-feddyg di-drwydded' am ddiofalwch. Gwrandawyd ar yr achos hwnnw yn 1849. Ond gan gymaint oedd llu tystion Evan Thomas a Meiri, Aelodau Seneddol ac eraill yn eu plith, a'u tystiolaeth unol o'i blaid, methodd yr erlyniad â chario'r maen i'r wal. 'Roeddwn i wedi sigo fy arddwrn, neu fy migwrn neu wedi dadleoli'r naill neu'r llall, a bûm am flwyddyn dan ofal y Dr Hwn-a-Hwn (gan enwi'r meddyg trwyddedig) a 'doeddwn i ronyn gwell; yn wir, yr oeddwn i'n waeth am fod y cymal yn prysur gloi. Yna fe'n cymhellwyd i fynd at Evan Thomas, ac mewn pythefnos mi gafodd ef fì'n iawn.' Yr hyn a wnaeth