Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CLIII (644-647) 1998

Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Cymru fel egwyddor lywodraethol.
E.e., croesawaf weld cofnod am
William Jones (1746-94) y Dwy-
reinydd, yn y Cydymaith hwn, cofnod
nas ceir yng Nghydymaith 1986.
'Roedd y William Jones hwn yn gawr o
ysgolhaig ac yn dipyn 0 lenor a gellid
dadlau ei fod yn fwy na theilyngu ei
ddau dudalen a mwy yn y Cydymaith
presennol ond gellid dadlau ar y llaw
arall mai ymylol oedd ei ddiddordeb ef
yng Nghymru ac mai ymylol yw ei
ddiddordeb ef i Gymry. Ac er ei bod
yn dda cael cyfeiriadua at gyhoedd-
iadau o'i waith ac at astudiaethau
arnynt, nid oedd yn dda hepgor
cyfraniadau Caryl Alban Davies ar ei
gysylltiadau  Chymru.
Yn wahanol i olygyddion Y Byw-
graffiadur Cymreig nid yw golygydd y
Cydymaith yn rhoi enw pob cyfrannwr
wrth ei gyfraniad gan nad yw, mae'n
debyg, yn cadw union eiriau'r cyfran-
nwr. Nid yw golygyddion The Oxford
Companion to French Literature, Paul
Harvey a J. E. Heseltine yn rhoi
unrhyw enwau wrth y cyfnodion yno
am eu bod yn mynd yn gyfrifol am
bob cofnod. 'Compiled and edited by
yw eu disgrifad o'u gwaith.
'Casglwyd a golygwyd' yw disgrifiad
golygydd y Cydymaith o'i waith ef, ac
'n gyfrifol am unrhyw gamgymer-
iadau. Afraid dweud, mae hwn yn
gyfrifoldeb mawr, oblegid y mae yma
gamgymeriadau. E.e., dywedir yn y
cofnod olaf mai golygyddion y
Zeitschrift fur celtische Philologie 'ar hyn
o bryd' yw Heinrich Wagner a Karl
Horst Schmidt, ond gwyr y cyfarwydd
fod Heinrich Wagner wedi marw
flynyddoedd yn l. Cofnod heb ei
ddiweddaru yw hwn, mae'n amlwg,
ond ceir camgymeriadau eraill. Gwaith
digon difyr fyddai dyfalu pwy oedd y
cyfrannwr gwreiddiol y tu l i gofnod
arbennig a dyfalu ai ef ai'r golygydd
sy'n gyfrifol am unrhyw gamgymeriad.
E.e., pwy sy'n gyfrifol am ddweud yn y
cofnod am Taliesin, ac am y deuddeg
cerdd ddilys mai 'Cerddi mawl yn
cyfarch Urien ap Cynfarch (*Urien
Rheged) a'i fab *Owain ab Urien
yw chwech ohonynt'. Ond brysiaf i
ddweud nad yw camgymeriadau
ffeithiol fel hyn yn aml iawn a
digywilydd-dra, efallai, yw sn
amdanynt mewn adolygiad na all
beidio  bod yn ganmoliaethus iawn.
Fel y dywedais ar y dechrau, bydd
yn dda gennyf gael y cyfle newydd a
rydd y Cydymaith hwn i mi werth-
fawrogi gweithgarwch llenyddol
creadigol cydwladwyr, a da gennyf
longyfarch y golygydd, Meic Stephens,
ar ei weithgarwch yma ac ar ei weith-
garwch helaeth arall ar ln Gymraeg a
lln Eingl-Gymreig.
J. E. CAERWYN WILLIAMS
EMYR WYN JONES, Bysedd Cochion
a'r Wladfa Gyntaf (Gwasg Gee,
Dinbych, 1997) tt. 284. Pris  12.
Bu meddygon bob amser yn fwy parod
na gwyddonwyr eraill i fentro i feysydd
newydd ac, yn groes i'r disgwyl efallai,
yn fwy parod hefyd i gofleidio dulliau
gwahanol o ddehongli realiti. Ni
buont ychwaith yn amharod i
ddefnyddio ieithwedd newydd wrth
gyfathrebu ag eraill ac wrth fentro i
faes llenyddiaeth bur. Mae'r meddygon
llenyddol hyn yn ffenomen yr un mor
ddiddorol  mathau eraill o hybrid
megis yr 'hen offeiriaid llengar' neu'r
offeiriaid-naturiaethwyr a ffynnai yn
ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r daith rhwng Religio Medici
Browne ac Aequanimitas Osler yn frith
gan gynhyrchion Saesneg y meddygon
llengar hyn.
Mae'r berthynas rhwng meddygaeth
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.