Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r Gymraeg, fodd bynnag, yn ddigwyddiad cymharol ddiweddar ac yn llawer mwy anwastad ei natur. Cyhoeddwyd rhyw bymtheg o lyfrau Cymraeg gan feddygon trwyddedig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond llyfrau hyfforddiadol neu ddidactig fu'r rhain i gyd a'r awduron yn gweithredu y tu mewn i fframwaith rhagordeiniedig ac yn ymateb i ofynion y gymdeithas uniaith Gym- raeg a fodolai ar y pryd. Ac i'r graddau y disodlwyd yr unieithrwydd hwn gan lythrennedd dwyieithog tua diwedd y ganrif, edwino hefyd fu hanes meddyg- aeth Gymraeg. Ond daeth tro ar fyd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yn rhan o'n haf bach Mihangel presennol gwelwyd meddygon llengar yn ail-gydio yn eu hysgrifbinnau Cymraeg. Dechreuodd rhai gyfarch eu cyd-feddygon yn Gymraeg trwy drafod materion pro- ffesiynol a thechnegol yn nhudalennau Cennad. Dechreuodd eraill annerch cynulleidfa ehangach, un ai trwy 'boblogeiddio' ac egluro pynciau meddygol penodol neu drwy drafod agweddau ar hanes meddygaeth (neu, fel yn achos y llyfr dan sylw yma, agweddau meddygol ar hanes). Blaenllaw yn y diwygiad diweddar hwn ac yn llwyr gynrychioliadol o'r meddygon llengar ar eu gorau yw'r Dr Emyr Wyn Jones, dyn amlwg yng nghylchoedd meddygol ac academaidd Cymru a thu hwnt, a Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Feddygol. Oddi ar ei gyfrol 'feddygol' gyntaf yn 1971 (Ffiniau meddygaeth) mae'r awdur toreithiog hwn wedi cyhoeddi rhyw saith cyfrol gyffelyb. Mae ei gyfraniad i ryddiaith Gymraeg medd- ygaeth wedi bod yn dra sylweddol. Er hyn, ymddengys nad yw poblogeiddio meddygaeth neu egluro' pynciau meddygol i'r meddwl lleyg yn rhan o'i genhadaeth. Mae wedi defnyddio ei arfogaeth feddygol at ddibenion eraill weithiau i dynnu sylw ei ddarllenydd at 'ddigwyddiadau' meddygol 0 bwys hanesyddol (megis yn ei ymdriniaeth ag anffurfedd Rhisiart III yn ei gyfrol flaenorol Ymgiprys am y Goron); weithiau, ac yn fwy diddorol efallai, i ddadlennu cymhlethdodau meddygol neu seico- legol mewn sefyllfa 'anfeddygol'. Ond pa dechneg bynnag a fabwysiedir ganddo i gyflwyno ei bwnc, nodweddir ysgrifau Emyr Wyn Jones bob amser gan drylwyredd a manylder, a'r cyfan y deunydd ynghyd â'r mynegiant yn adlewyrchu disgyblaeth lem ei gefndir meddygol-wyddonol. Nid yw ei gyfrol ddiweddaraf- ond odid, ei gyfrol fwyaf sylweddol hyd yn hyn, yn eithriad yn hyn o beth. Cynnwys ddeuddeg o erthyglau, un ar ddeg yn feddygol neun lled-feddygol eu naws ac un ddafad grwydr hanes Hubert Herkomer a regalia'r Eistedd- fod Genedlaethol. Canfyddir yn yr erthyglau yr un math o ymraniad ymdriniaeth ag sydd bellach yn un o brif nodweddion yr awdur. Mae yma erthyglau ffeithiol yn nhraddodiad haneswyr meddygaeth glasurol; mae yma hefyd erthyglau mwy seicolegol (ac felly, yn fwy damçaniaethol) eu naws Ile cais yr awdur dwrio i ddyfnderoedd personoliaethau arben- nig a'u dehongli o'i safbwynt unigryw ef ei hunan. Trafodir nifer o ddigwyddiadau o bwys yn hanes meddygaeth ond bob amser o safbwynt Cymreig. Yn wir, yr hyn sy'n synnu'r darllenydd yw sut y llwydda'r awdur, bron bob amser, i ddod o hyd i wedd neu weddau Cymreig ar y pwnc dan sylw hen wraig Bryn Canaid' yn hanes With- ering; y dropsi a'r bysedd cochion; Captain Thomas James o Went ac Ancient Mariner Coleridge; Laennec, dyfeisydd y stethosgop a'i lyfrau