Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dangos yn eglur fod ganddo'r union fath o feddwl holgar a dadansoddol y byddai ei angen i ddadlennu mwy am bersonoliaeth y wraig dra diddorol hon. Yn ffodus, nid yw ei wyleidd-dra deallusol wedi'i rwystro rhag cynnig sylwadau o'r fath am bersonoliaeth ac ymddygiad un arall o'r cymeriadau brith y mae'n ymwneud â hwy yn y gyfrol hon. H. M. Stanley yw hwnnw, fforiwr o gryn fri yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ond odid, yr enwocaf o'r Cymry gwrth- giliedig hynny sydd wedi britho tudalennau'r llyfrau hanes oddi ar adeg Gruffydd Robert a'i sylw am effaith clochdai Amwythig ar Gymreictod ac am a wn i, ymhell cyn hynny. Rhaid bod H. M. Stanley wedi hawlio cyfran nid ansylweddol o fywyd Emyr Wyn Jones. Mae eisoes wedi delio'n fanwl â phrif droeon bywyd y Cymro syrthiedig hwn yn ei Henry M. Stanley: Pentewyn Tân a'i Gymhlethdod Phaetonaidd (1992), ac ni all y darllen- ydd wneud yn well na throi at y gyfrol ddadansoddol honno os am fwy o fanylion. Mae ganddo ymdriniaeth ag agwedd ar fywyd Stanley yn y gyfrol bresennol 'Syr Henry M. Stanley: Dirgelion y Dyddiau Cynnar' lle mae'n diosg peth o'i wrthrychedd gwyddonol am y tro ac yn ymarfer ei graffter meddygol i ddadlennu (byddai rhai yn dweud 'i greu') cymhlethdodau personoliaeth H. M. Stanley y Cymro. Os Cymro hefyd. Canys un o'r pethau mwyaf diddorol am Stanley oedd ei ymdrechion diflino i wadu ei Gymreictod er iddo gael ei eni (fel 'John Rowlands') i rieni o Gymry a'i fagu wrth borth y Castell yn Ninbych am chwe blynedd ac wedyn am naw mlynedd yn Nhloty Llanelwy. O ddilyn dadansoddiad Emyr Wyn Jones gwelir fod Stanley, erbyn diwedd ei oes, trwy wyrdroi ffeithiau a thrwy gelu a ffugio digwyddiadau o bwys, wedi llwyddo i lurgunio neu i 'ladd' tair agwedd bwysig ar ei orffennol ei fagwriaeth yng Nghlwyd, ei Gymreic- tod, a'r berthynas rhyngddo a'i rieni 'nawdd' yn y Taleithiau Unedig. Mesur ei lwyddiant yn hyn o beth yw nad oes yr un sôn amdano, er enghraifft, yn Hanes Cymru John Davies. I mi, ei ymdriniaeth â Stanley, yn y gyfrol hon ac mewn mannau eraill, yw'r mwyaf trawiadol a dadlennol o holl gyfran- iadau llenyddol diweddar Emyr Wyn Jones. Bysedd Cochion a'r Wladfa Gyntaf yw un o'r llyfrau mwyaf diddorol a ddarllenais ers tro byd. Mewn oes a nodweddir yn y Gymraeg gan gymaint o farddoniaeth annealladwy, gan gynifer o nofelau annarllenadwy, a chan duedd ar ran y byd academaidd 'Cymraeg' i droi mwyfwy i gyfeiriad y Saesneg fel cyfrwng mynegiant, amheuthun o beth yw cael croesawu llyfr sydd nid yn unig yn gyfraniad gwiw i ysgolheictod yng Nghymru ond sydd hefyd yn bleser i'w ddarllen. Hawddamor Emyr Feddyg! Der- byniwch ein cyfarchion a'n diolchiadau. R. ELWYN HUGHES, Caerdydd PAUL BIRT, Cerddi Alltudiaeth: Thema yn Llenyddiaethau Québec, Catalunya a Chymru (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1997). Mae hi'n wir bod 'England and Wales' yn welliant ar 'For Wales, see England' ond os yw Cymru o ddifrif yn dymuno bod yn fwy nag atodiad eilradd mewn uned weinyddol (ac y mae dyfodiad y Cynulliad yn awgrymu fod y dymuniad hwnnw'n bodoli), mae angen iddi fynnu ei gweld ei hun