Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd MARWNAD PRIFATHRO Wersyllddydd gwlyb o haf, llyncodd y Drefn ei phoer A bore-ganiatáu i Awdurdod Trech Na'r Dr Tudur Jones ei hawlio'n eofn, oer, Er nad oedd arni eisiau diwinyddiaeth yn y bedd. Hawlio herfeiddiwch oedd yn hyn na Morgan Llwyd, Difrawder Va'sor Powell, egni Thomas Charles, Yr annibyniaeth oedd i Michael D yn fwyd, Diwylliant pedair canrif yn ei hald, Hawlio dysg, hawlio ufudd-dod dur i'r Pren, Sicrwydd deall ffydd ac angerdd tafod llym. Fel hyn y daeth ei fywyd diefallai ef i ben, Fel rhoddi sbrag o bwys yn olwyn fawr y Rhyl, Fel datod pabell pawb. Eglwysi Rhyddion byd, Y maent yn gaeth i'r cof amdano yn ei oed; A'r un yw hanes Annibynwyr Cymru ar ei hyd; Protestia Protestaniaeth: 'Pa le mae'r Gair ar goedd?' Mudandod pregethwrol ydyw'r pulpud mwy, Colofnau'r Cymro ydynt bur a glân a gwyn, Ac eco wedi'i hepgor yw hanes. O beth? Gan bwy? Y mae yr hwn all ateb wedi mynd. DEREC LLWYD MORGAN