Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. Tudurjones 28 Mehefin 1921 23 Gorffennaf 1998 Pan glywais am farw disymwth Tudur, y geiriau a ddaeth yn ddigymell i'm meddwl oedd yr adnod hysbys honno o Ail Lyfr Samuel (3: 38): 'Oni wyddoch i dywysog ac i wr mawr syrthio heddiw yn Israel?'. Yn ystod y dyddiau wedi ei farwolaeth y mae gwirionedd y geiriau hyn, o'u cymhwyso ato ef, wedi'i argraffu ei hun yn ddyfnach ddyfnach ar fy meddwl. Bu ei gyfraniad i'n bywyd cenedlaethol mor enfawr fel y byddai angen cyfrol, onid cyfrolau, i wneud rhywbeth tebyg i gyfiawnder ag ef. Mewn ysgrif fer fel hon, ni ellir gobeithio gwneud mwy na chyfeirio at rai o brifannau ei yrfa. Dechreuodd yr yrfa honno yn 1921 yng nghynefin ei hynafìaid yn Eifionydd, ond cyn hir symudodd y teulu i'r Rhyl lle y gweithiai ei dad ar y rheilffordd. Yn y Rhyl felly y cafodd ei addysg gynradd ac uwchradd, abu'n ffodus yn ei athrawon: cofiai'n arbennig am S. M. Houghton, ei athro hanes yn yr Ysgol Uwchradd. Cyfaill ysgol iddo, a chyfaill oes wedi hynny, oedd Emyr Humphreys, ein nofelydd mwyaf. Bu Tudur yn ffodus hefyd yn y fagwraeth grefyddol a dderbyniodd yng Nghapel Carmel yr Annibynwyr dan weinidogaeth y Parch. T. Ogwen Griffiths. Eithr mewn cyfarfod efengylu ym Mhafiliwn y Rhyl y daeth iddo'r profiad a gyfrifai ef yn dröedigaeth. Yn ddeunaw oed aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor gydag Ysgoloriaeth y Wladwriaeth, a graddio dair blynedd yn ddiweddarach gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Athroniaeth, dan ofal yr Athro T. James Jones. Yno y cyfarfu â Gwenllian Edwards o Borthmadog, a astudiai Ffrangeg: fel y darganfu fy ngwraig ar ddamwain yn ddiweddar, fe ganodd Eilion Wyn dri englyn cymen iddi hi i'w chroesawu i'r byd (O Drum i Draeth, t.30). Wedi graddio'n B.A. ymunodd Tudur â Choleg Bala-Bangor, athrofa ddiwinyddol yr Annibynwyr, a bu yno am dair blynedd, yn astudio Hanes yr Eglwys ac Athroniaeth Crefydd yn bennaf, gyda'r Prifathro John Morgan Jones yn