Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YrAthro D. Simon Evans, M.A., B.D., B.Litt„ D.Litt. 29-5-21 4-3-98 Ym marwolaeth yr Athro-Emeritws D. Simon Evans mae 'Shir Gâr' wedi colli mab disglair a Chymru un o'i hysgolheigion mwyaf rhagorol. Crybwyllaf ei gysylltiad â Sir Gaerfyrddin gyntaf oherwydd, fel llawer un arall yn ein plith, cafodd mangre ei eni a'i blentyndod ddylanwad tyngedfennol ar ei gymeriad ac ar ei yrfa. Fe'i ganed ym mhentref bychan Llanfynydd, ryw naw milltir o Landeilo a phump o Ddryslwyn. Yno yr aeth gyntaf i'r ysgol, yr ysgol ddyddiol, fel yr arferem ei galw, ac yno yr aeth gyntaf i'r Ysgol Sul ac i'r capel Methodistaidd Calfìnaidd Ue treuliodd ef a'i frawd (yn awr yr Athro-Emeritws) D. Ellis Evans, ynghyd â'u rhieni gryn dipyn o'u hamser. Yno yn gynnar iawn y teimlodd yr alwad i fod yn Weinidog yr Efengyl. O'r ysgol elfennol yn Llanfynydd yr aeth i'r ysgol ramadeg yn Llandeilio lle daeth yn Ben Bachgen cyn iddo fynd i Goleg y Brifysgol yn Abertawe lle'r enillodd Ysgoloriaeth Mary Towyn Jones, lle graddiodd mewn Groeg a Lladin ym 1942, a chydag Anrhydedd, Dosbarth Cyntaf, yn y Gymraeg yn 1943. Arhosodd yn Abertawe yn gwneud ymchwil i gystrawen rhai testunau Cymraeg Canol am flwyddyn ar Efrydyddiaeth Prifysgol Cymru, ac yna aeth i Goleg Diwinyddol Unedig ei Enwad yn Aberystwyth lIe graddiodd yn B.D. (Groeg a Hebraeg) ym 1947 ym mhen y cwrs o dair blynedd. O Aberystwyth aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn ddisgybl i'r diweddar Syr Idris Foster fel Athro Celteg am y sesiwn 1947-48, ond erbyn Hydref, 1948, yr oedd yn ôl yng Ngholeg Abertawe fel Darlithydd Cynorthwyol yn Adran y Gymraeg. Mae'n amlwg fod Pennaeth yr Adran, yr Athro Henry Lewis, wedi sylweddoli mor alluog oedd ei gyn-ddisgybl, ac yn awyddus iddo gael cyfle i ymuno ag ef yn y pwnc ymchwil yr oedd yn mynd â'i fryd, sef yr iaith Gymraeg. O Abertawe aeth Simon Evans i Goleg Prifysgol Genedlaethol Iwerddon