Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tynged un o ieithoedd mawr Ewrop gynt: Plattdeutsch Chwalwyd un o deyrnasoedd mawr y llawr yn 1991, yn ganlyniad uniongyrchol i'r chwyldro a gychwynnodd gydag ailuno'r Almaen. Yn ystod y cyfnod o fyw ar wahân, gwelwyd gwahaniaethau'n tyfu rhwng Almaeneg y Dwyrain a'r Gorllewin: pwy a ŵyr beth a fyddai tynged yr iaith yn y ddwy ran pe bai gwahanu gwleidyddol wedi parhau am ganrifoedd. Ond gellir mynd ati bellach i weld sut y bydd y mân wahaniaethau hyn yn diflannu wrth i'r proses ailuno chwyldroi gwleidyddiaeth, addysg, masnach a chyfryngau Dwyrain yr Almaen. Yn gyffredinol bu dylanwad y Rwsieg ar iaith y DDR gynt dipyn yn llai na dylanwad y Saesneg ar Almaeneg y BRD. Daw 'Team' bellach i gymryd Ue 'Kollektiv', ac 'Astronaut' i gymryd ei Ie yn y gofod yn lle'r 'Kosmonaut'. Gwelir diwedd dylanwad y Rwsieg ar yr eirfa 'ddwyreiniol' wrth i'r boblogaeth dderbyn systemau a syniadau'r gorllewin. Ni fu erioed ddwy Almaeneg yn gwahanu'r Dwyrain a'r Gorllewin, ond cafwyd geiriau gwahanol yn adlewyrchu'n enwedig systemau gwleidyddol a'u meysydd dylanwad amrywiol. Honnir gan Werner König (Atlas zur deutschen Sprache, München, 1979, t.123) fod y gwahaniaethau ieithyddol wedi cael eu gorbwysleisio, yn enwedig yn y gorllewin. Gan fod 98% o'r eirfa'n debyg, a gramadeg dwy ran yr Almaen yr un fath, gwrthyd yn deg y syniad o ddwy Almaeneg. Wrth i'r hen drefn Gomiwnyddol chwalu, hyd yn oed cyn i'r ddwy Almaen uno, aethpwyd ati ar frys i ddileu'r Rwsieg fel pwnc gorfodol yn yr ysgolion. Pan gefais gyfle ym mis Gorffennaf 1990 i ymweld â Dwyrain Berlin, wythnos ar ôl yr uno ariannol, 'roedd y siopau llyfrau a fu gynt yn cynnig arlwy gyfyngedig yn sydyn yn orlawn o lenyddiaeth y Gorllewin. Yn Siop Lyfrau'r Brifysgol yn Stryd Unter den Linden