Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Winifred Coombe Tennant ayr Eisteddfod Ar un olwg roedd hi [W.C.T.] yn nodweddiadol o'r 'yictorian grande dame\ gydar duedd i drafod hyd yn oed ei gwesteion anweledig megis y byddai'n trafod meidrolion cyffredin yn ei chartref; un a gymerai ran mewn bywyd cyhoeddus, a gwneud hynny'n dra effeithiol; un a'i diddordebau yn hynod o radical. Trosiad. Yr Athro C.D. Broad Caer-grawnt Ar olwg arall roedd hi'n arddangos hoffter neu atgasedd cryf iawn tuag at rai unigolion; ac yn arbennig [yn un] nad oedd ei greddf famol gref yn ffortunus bob amser Ar olwg arall drachefn, roedd yn gyfrinydd yn byw mewn dau fyd. Trosiad. C.D. Broad eto. Rhwng Ionawr 1966 ac Ebrill 1997 fe gyhoeddwyd tair ysgrif i geisio crynhoi'r astudiaeth a wnaethpwyd o fywyd Winifred Coombe Tennant. Fel y digwydd yr ysgrifau hyn oedd yr ymdrech gyntaf, hyd y gwelir, i drafod yn Gymraeg fywyd un o wragedd enwocaf Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Oherwydd ehangder ei diddordebau a helaethrwydd ei dylanwad mewn llawer cyfeiriad, heb sôn am haelioni ei chymwynasgarwch, fe gyfeirid ati ar un cyfnod fel The Queen of South Wales' Brenhines y Deheudir, yn enwedig ym meysydd celfyddyd. Fodd bynnag, i'r Cymry ac yn arbennig gan eisteddfodwyr fe'i hadnabyddid mewn dull llawer mwy cartrefol fel Mam o Nedd. Mae'r ysgrif gyntaf yn rhoi arolwg ar ei bywyd personol a'i chysylltiadau teuluol. Sonnir am ei chartref yng Nglyn Nedd Cadoxton Lodge, Llangatwg, ei diddordebau diwylliannol a'i bywiogrwydd cymdeithasol, y cyfnodau o ddedwyddwch a'r