Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau E. R. LLOYD-JONES, Yr Athro J R. Jones. (Gwasg Pantycelyn, 1997. Tt. 97), pris £ 3.00. Prin y gellid gwella ar ddosraniad rhychwant meddylfryd athronyddol J. R. Jones o dan y penawdau a ddewisodd E. R. Lloyd-Jones ar gyfer yr ymdriniaeth hon. Yr oedd J.R. yn Gristion, yn gymdeith- asegwr, ac yn genedlaetholwr, ond wrth gwrs ei gymwynas fawr unigryw oedd ymgodymu â'r dasg o dreiddio i sylfeini athronyddol y safbwyntiau Cristnogol, cymdeith- asol a chenedlaethol a goleddai. A chymwynas werthfawr o eiddo awdur y gyfrol hon oedd amlinellu prif deithi meddwl yr athronydd drwy'r meysydd dryslyd hyn. Da o beth hefyd fod y dasg wedi ei chyflawni gan un sydd yn amlwg yn edmygydd a ddilynodd ddatblygiad meddwl J.R. gyda diddordeb dros y blynyddoedd. Fe gofiwn, wrth gwrs, fod yna dalp sylweddol o athroniaeth J.R. na fyddai'n syrthio'n daclus o dan yr un o'r penawdau uchod, megis ei ymwneud â phroblemau'r hunan, canfod, y cyffredinolion, ac yn y blaen. Rhoes yr awdur beth sylw i syniadau J.R. am yr hunan tua diwedd y gyfrol, ond mi dybiaf y bydd y darllenydd yn ei gael ei hun yn y niwl pan ddarlleno frawddegau olaf y paragraff hir ar dudalen 86. Y ffaith yw fod ymdriniaeth oleuedig o syniadau J.R. am yr hunan yn gofyn pennod arall at y gwaith. Ta waeth, y mae Lloyd-Jones wedi llwyddo i ddod â syniadau J.R. am Gristnogaeth, cymdeithaseg, a chen- edlaetholdeb at ei gilydd a'u gosod mewn trefn sydd yn rhoi gwell gafael i'r darllenydd ar yr athroniaeth yn y meysydd hyn. Y syniad agoriadol yn y bennod ar Gristionogaeth ydyw'r awgrym fod y gwirionedd yn ein rhyddhau, ac fe gysylltir yr awgrym hwn â'r hyn y mae J.R. yn cyfeirio ato fel 'yr Egwyddor Brotestan- naidd'. Fe ddehonglir hon fel sialens i syniadau sefydlog Catholigiaeth yr Oesoedd Canol. Ond buan iawn y troes yr her, yn nwylo J.R., i fod yn sialens i syniadau cyfoes a chartrefol Cymru'r ugeinfed ganrif, gan gynnwys syniadau cynnar J.R. ei hun. Dyma a ddaeth yn adnabyddus fel yr ymwrthod â'r syniad o grefydd swcr, ac â'r syniad o Dduw fel bod